Draig wedi'i cherfio gan ffoadur y Rhyfel Byd Cyntaf, Abermaw (Y Bermo)
Cafodd pen draig sy'n addurno blaen yr adeilad hwn ei gerfio gan artist o Wlad Belg a fu'n byw fel ffoadur yn Abermaw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Cafodd yr hen Adeiladau Banc eu trosi yn 1915 yn swyddfeydd newydd ar gyfer Cyngor Dosbarth Trefol Abermaw, gyda gorsaf dân ar y llawr gwaelod. Ym mis Mehefin 1915 gofynnwyd i'r cerflunydd o Wlad Belg, Charles Costers, greu fersiwn cerfweddol o arfbais y cyngor - oedd yn darlunio pen draig - ar gyfer y ffrynt.
Ffodd llawer o Wlad Belg eu mamwlad pan ymosododd yr Almaenwyr yn 1914. Erbyn gwanwyn 1915 roedd bron i 200 o ffoaduriaid yn y Bermo, gan gynnwys tua 50 o blant. Penodwyd un o'r rhieni i'w haddysgu yn yr ysgol leol. Erbyn Awst 1918 roedd dau athro a bron i 80 o blant ffoadur.
Bwriad cerfio y ddraig oedd gadael memento parhaol o arhosiad y ffoaduriaid yn Abermaw.
Dangosodd Charles Costers ei sgiliau artistig eto pan ddyluniodd a phaentio'r golygfeydd llwyfan ar gyfer ffêt mawreddog y ffoaduriaid yn Neuadd Belle Vue ar Ddydd Nadolig 1915. Roedd y digwyddiad yn cynnwys ffoaduriaid yn canu yn Fflandrys a Ffrangeg, a dawns gan wyth o blant. Prif bwrpas y ffêt oedd dosbarthu teganau a losin i blant y ffoaduriaid, oedd "ymhell i ffwrdd o'u cartref yng Ngwlad Belg ddinistriol".
Efallai mai Charles Costers oedd y dehonglydd, a gofnodwyd fel M de Coster, y galwyd arno pan ymddangosodd pobl nad oeddent yn gallu siarad Saesneg gerbron pwyllgor ffoaduriaid y dref. Ym mis Mai 1916 gofynnodd y pwyllgor i'r cyfieithydd ddweud wrth y ffoaduriaid na ddylai fod mwy i weithgareddau fel pysgota ar y Sul, pryd y dylent gadw at y Saboth.
Diolch i Toni Vitti, ac i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad
Cod post: LL42 1DS Gweld Map Lleoliad