Y Porth Mawr, Caernarfon
Hon oedd y brif fynedfa i dref gaerog Caernarfon (crëwyd y mynedfeydd eraill a welwn heddiw lawer yn ddiweddarach). Byddai dyhuddgloch (curfew bell) yn cael ei chanu bob nos – os oedd person yn anwybyddu’r gloch roedd y sawl oedd tu allan i’r dref yn cael eu cloi allan am y noson!
Ailadeiladwyd y strwythur i ddyluniad gwell ar ôl cael ei ddifrodi gan wrthryfelwyr Cymreig ym 1294, cyn i'r castell gael ei gwblhau. Bu ystafelloedd uwchben y bwa yn gartref i swyddfeydd gweinyddol Gogledd-orllewin Cymru a Thrysorlys y rhanbarth am dair canrif.
Codwyd pont godi’r giât ar adegau o drafferth, ond fel arfer gorweddai’n wastad i gysylltu â phont sefydlog. Safai barbican (giât amddiffynnol lai) lle'r oedd y ddwy bont yn cyfarfod. Roedd y pontydd yn cario’r ffordd dros y tir corsiog ar hyd yr afon Cadnant, a lifai o’r de i’r gogledd yn gyfochrog â mur y dref. Roedd y ffordd yn ymuno â Stryd y Bont mewn man masnachu prysur, a elwir bellach yn Turf Square.
Mae lle’r bont godi bellach wedi’i meddiannu gan fwa carreg, rhan o’r draphont isel lle saif y rhan fwyaf o’r stryd (Stryd y Porth Mawr) o hyd. Mae'r bwâu cerrig eraill wedi'u cuddio gan adeiladau cyfagos.

Y Porth Mawr, efo siop uwchben y bwa lle'r oedd y bont godi.
Trwy garedigrwydd y CBHC a'i wefan Coflein
Ailadeiladwyd llawer o’r Porth Mawr yn 1767 a 1833, gan greu neuadd y dref a’r Guildhall uwchben y bwa. Ym 1828 a 1830 cynhaliwyd cyfarfodydd gwrth-gaethwasiaeth yno, gan arwain at ddeisebau i ddau Dŷ'r Senedd. Soniwyd gan y siaradwyr am y creulondeb ysgytwol i gaethweision. Diddymodd Prydain gaethwasiaeth ym 1833.
Gosodwyd cloc y dref, wedi'i oleuo gan olau nwy, yma ond bu'n fyrhoedlog oherwydd ei fod yn drysu morwyr yn ceisio dod o hyd i'w ffordd i mewn i borthladd Caernarfon gyda'r nos!
Mae'r hen luniau o Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (trwy garedigrwydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru) yn dangos siâp Y Porth Mawr ar ôl ei ailadeiladu ymhellach ym 1873. Cafodd Neuadd y Dref, sydd i'w gweld uwchben y bwa, ei dymchwel yn y 1960au.
Yn 2020, roedd gwaith adnewyddu gan CADW wedi trawsnewid un tŵr yn llety i dwristiaid. Mae cloddiadau archeolegol wedi datgelu cell heddlu o’r 19eg ganrif a thyrau crwn o dan cromfachau yn y ddau borthdy.
Gyda diolch i KF Banholzer, awdur yr arweinlyfr ‘O fewn Hen Muriau Tref Caernarfon’. Cyfieithiad gan Rhiannon James
Cod post: LL55 1RG Map
Mae copïau o’r hen lun a delweddau eraill ar gael gan y CBHC. Cyswllt: nmr.wales@rcahmw.gov.uk
![]() |
![]() ![]() |