Delw dybiedig o Gerallt Gymro, Cadeirlan Tyddewi

Delw dybiedig o Gerallt Gymro, Cadeirlan Tyddewi

Portrait of Gerald of Wales from 1804 book

Bu farw Gerallt Gymro (Giraldus Cambrensis) yn 1223 a’i gladdu, yn ôl pob sôn, yng Nghadeirlan Tyddewi. Yn y gadeirlan mae delw a allai fod yn bortread ohono. Erbyn hyn, caiff ei gofio am ei waith llenyddol, sy’n cynnwys disgrifiad manwl o’i daith trwy Gymru yn 1188. 

Mae’r lluniau ohono a’r ddelw yn deillio o gopi o un o’i lyfrau a gyhoeddwyd yn 1804 ac a ddiogelir yn llyfrgell y gadeirlan. Maen nhw wedi’u hatgynhyrchu yma gyda chaniatâd deon a chabidwl y gadeirlan.

Ganwyd Gerallt ym Maenorbŷr c. 1146. Enw ei dad oedd William de Barri (a’r enw yn dynodi cysylltiad teuluol â’r Barri, Sir Forgannwg). Ei famgu o du ei fam oedd Nest, merch Rhys ap Tewdwr. Roedd mwy o waed Normanaidd na Chymreig yn ei hanes teuluol, ond ac yntau’n byw mewn cyfnod pan gâi apwyntiadau eglwysig ar gyfer Cymru eu gwneud yn Lloegr, ei Gymreictod oedd y maen tramgwydd pennaf o ran sicrhau dyrchafiad.

Gan ei ewythr, Esgob Tyddewi, y derbyniodd Gerallt ei addysg, ac yna yn Abaty Caerloyw a Paris. Pan oedd yn ddyn ifanc darganfu bod Archddiacon Aberhonddu yn byw mewn pechod gyda’i feistres. Sicrhaodd Gerallt ei fod yn cael ei ddiarddel ar unwaith. Gerallt a benodwyd yn Archddiacon yn ei le!

Pan fu ei ewythr farw yn 1176 enwebwyd Gerallt i’w olynu yn Esgob Tyddewi. Hwyrach mai ymgyrch Gerallt i wneud Tyddewi yn archesgobaeth annibynnol ar Gaergaint, a symbylodd y Brenin Harri II i ddewis Peter de Leia, Eingl-Norman o sir Amwythig ar gyfer Tyddewi. Peter a drefnodd adeiladu llawer o’r Gadeirlan a welwn heddiw yn Nhyddewi. Gwrthodwyd Gerallt eilwaith pan fu farw Peter yn 1198.

Old drawing of Gerald of Wales effigy in cathedral

Wedi iddo gael ei wrthod y tro cyntaf bu Gerallt yn teithio, yn darlithio ac yn ysgrifennu (mewn Lladin bob amser). Disgrifiadau o Iwerddon oedd cynnwys ei ddau lyfr cyntaf .Yn 1188, yn gydymaith i Archesgob Caergaint, teithiodd trwy Gymru yn recriwtio i’r drydedd groesgad (ymgyrch filwrol er mwyn adennill Caersalem i’r Cristnogion wedi i’r arweinydd Mwslemaidd Saladin gipio’r ddinas yn 1187). Mae cofnod Gerallt o’r daith yn cyflwyno inni ddarlun o hanes, tirlun a phobl Cymru ar y pryd. Gerallt ei hun oedd y cyntaf i ymrestru ar gyfer y daith gan gychwyn am y Wlad Fendigaid yn 1189. Cyrhaeddodd cyn belled â chanolbarth Ffrainc cyn cael ei alw nôl i Brydain gan y brenin. 

Dali ati i ymgyrchu er mwyn ceisio annibyniaeth i Dyddewi oddi wrth Gaergaint a wnaeth Gerallt. Teithiodd dair gwaith i Rufain i bledio’i achos gerbron y Pab. Carcharwyd ef am gyfnod byr am greu cynnen. Erbyn y drydedd ganrif ar ddeg roedd wedi colli y rhan helaeth o’i gefnogwyr yng Nghymru. Treuliodd ugain mlynedd olaf ei fywyd yn ysgrifennu ac yn astudio ac aeth ar bererindod anwleidyddol i Rufain.

Cliciwch yma i weld cyflwyniad i siwrnai Gerallt trwy Gymru yn 1188.

Diolch i'r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad

Cod post: SA62 6RD       Gweld Map y Lleoliad