Gwesty'r Empire, Llandudno
Gwesty'r Empire, Llandudno
Codwyd yr adeilad hwn ym 1856 fel siop adrannol fodern gyntaf Llandudno (llun ar y dde). Roedd ganddo fferyllydd, groser a warws Eidalaidd. Roedd yn cael ei redeg gan ddyn 23 oed o Ddinbych o’r enw Thomas Williams, a allai gael ei ddisgrifio fel entrepreneur cyntaf Llandudno.
Cyhoeddodd y Visitor’s Handbook yn 1855 lle hysbysebwyd y nwyddau a werthodd y fferyllydd, gan gynnwys Atkinson’s Bear Grease, gelod ffres o’r Almaen, Dr. Erasmus Wilson’s Hair Wash, powdwr gwn, past dannedd o’r Dwyrain ac yswiriant tân.
Yn haf 1856 symudodd ar draws y stryd o’i siop flaenorol i’r adeilad newydd a oedd “wedi’i adeiladu’n benodol ar ei gyfer i hwyluso busnes”. Mae'r hen lun isod yn dangos yr adeilad newydd ar ben Stryd Mostyn c.1860 ac fe'i hatgynhyrchir yma trwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Roedd nwyddau Thomas yn 1856 yn cynnwys sbeisys, gwinoedd Prydeinig, sebon ceuled a mêl, sigarau a phowdr dannedd antiseptig. Roedd hyd yn oed wedi sefydlu ei frand ei hun o bersawr, sef Williams’ Llandudno Bouquet.
Yng nghefn yr eiddo roedd y gweithdai peirianneg ar gyfer mwyngloddiau copr y Gogarth. Ar bob ochr roedd peiriannau ager i bwmpio dŵr, olwyn ddŵr a siafftiau mwyngloddiau.
Erbyn 1899 roedd yr adeilad wedi dod yn westy'r Regent. Ym 1900 cyhuddwyd y perchennog George Goodwin o ganiatáu i westeion chwarae biliards ar ôl oriau cau. Rhoddodd yr ynadon ddirwy o chwe cheiniog iddo.
Adnewyddwyd yr adeilad yn 1904 a'i ailagor fel Gwesty'r Empire. Yn 1905 ymddangosodd un gwestai, Henry Barker, cyfreithiwr o Sheffield, yn y llys wedi’i gyhuddo o yrru’n ddi-hid ar hyd Stryd Mostyn ar gyflymder o 15mya (24kmya) yn ei gar modur Vulcan 8hp, gan adael cwmwl o lwch. Dilynodd heddwas, gan sychu ei lygaid wrth iddo fynd, y car i garej Gwesty'r Empire. Dywedodd Mr Barker a'i wraig mai dim ond tua 30 o bobl oedd yn y stryd, gan ei bod hi'n nos Sul, ac fe wrthododd yr ynadon yr achos.
Fe wnaeth perchnogion presennol y gwesty, y teulu Maddocks, ei ymestyn yn sylweddol yn y cefn, gan ddarparu pwll nofio cyfoes. Fe wnaethon nhw hefyd greu'r porth blaen gyda’r pileri. Cafodd y pileri, a brynwyd yn ystafelloedd arwerthu Sotheby’s, eu rhoi’n wreiddiol gan y Frenhines Victoria i’r Gerddi Gaeaf yn St Leonards-on-Sea, Dwyrain Sussex.
Gyda diolch i John Lawson-Reay, o Gymdeithas Hanes Llandudno a Bae Colwyn, ac i Lyfrgell Genedlaethol Cymru
Cod post: LL30 2HE
![]() |
![]() ![]() |
![]() |
![]() ![]() |