Hen gartref Ellen Hughes, Tan y Fynwent, Llanengan
Ganed Ellen Hughes ym mis Mai 1862, yn un o bump o blant Y Parch William Hughes a’r wraig Catherine. Gweinidog Capel y Bwlch oedd William ar y pryd.
Yn y llun o'r 1930au, gallwch weld Tan y Fynwent yn y chwarter uchaf ar y dde, ychydig y tu hwnt i'r fynwent.
Trobwynt ym mywyd Ellen oedd dod i gysylltiad ȃ Cranogwen, gwraig gafodd ddylanwad mawr arni. Gallwch ddarllen mwy am Granogwen ar ein tudalen we am eglwys Llangrannog, ei man claddu.
Cafodd gwaith Ellen ei gyhoeddi yn rheolaidd am dros ddeugain mlynedd yn Y Frythones, cylchgrawn roedd Cranogwen yn olygydd arno, yn ogystal ag mewn nifer o gyfnodolion eraill. Cyhoeddwyd dwy gyfrol o’i gwaith, Murmur y Gragen a Sibrwd yr Awel.
Dadleuai’n frwd dros hawliau merched yn ei herthyglau a daeth yn enwog, yn enwedig yng nghymoedd y de, drwy ei darlithoedd yn ymgyrchu dros hyn. Yn 1892, er enghraifft, ysgrifennodd: “Onid oedd yn hawdd gweled ... mai rhan o’r hil ddynol oedd merch, a chan hynny fod holl hawliau dyn yn eiddo iddi hithau? Pa fodd y gallasai ein hynafiaid syrthio i’r fath gamgymeriad dybryd ag i dybied fod rhyw yn bwysichach na rhywogaeth?”
Yn 1903 disgrifiodd y Rhondda Leader hi (yn Saesneg) fel rhywun “adnabyddus ledled Cymru fel llenor gwych”.
Bu’n weithgar iawn tros y Mudiad Dirwest hefyd – er iddi gwyno na chafodd y mudiad hwnnw fawr o lwyddiant yn Llanengan!
Bu Ellen Hughes farw ym mis Mai 1927 ac fe’i claddwyd ym Mynwent y Bwlch.
Diolch i grŵp Diogelu Enwau Llanengan
Cod poste: LL53 7LL Map