Yr ysgol gyfun gyntaf, Ysgol Syr Thomas Jones, Amwlch

Hon oedd yr ysgol gyfun gyntaf yng Nghymru ac yn ôl pob tebyg y cyntaf ym Mhrydain a adeiladwyd fel ysgol gyfun, a ddaeth yn fformat safonol ar gyfer addysg uwchradd y wladwriaeth. Peidiwch â mynd i mewn i dir yr ysgol heb ganiatâd.

Aerial photo of Ysgol Syr Thomas Jones in 1951Cyn hynny, rhannwyd addysg uwchradd yn dair ffrwd: ysgolion gramadeg i blant a oedd wedi llwyddo yn y prawf “11+” wrth orffen yn yr ysgol gynradd; ysgolion technegol a oedd yn addysgu pynciau galwedigaethol; ac ysgolion uwchradd modern i blant eraill. Erbyn y 1930au roedd pryderon ei bod yn annheg i gategoreiddio plant ar sail eu cyrhaeddiad yn yr ysgol gynradd, ac roedd cyngor Môn yn un o’r rhai cynharaf i archwilio’r cysyniad o ysgolion uwchradd lle byddai’r holl blant yn cael eu haddysgu gyda’i gilydd.

Ar ôl y rhyfel, dyluniodd pensaer y sir, sef Norman Squire Johnson, ysgol enghreifftiol ar gyfer Amlwch. Cymaint oedd ei harwyddocâd i’r llywodraeth Lafur yn San Steffan wedi’r rhyfel fel y cafodd David Hardman, Ysgrifennydd Seneddol y Weinyddiaeth Addysg, ei anfon i osod y garreg sylfaen (o galchfaen caboledig o Foelfre) ym Medi 1948. Disgrifiwyd yr ysgol bryd hynny fel un amlochrog (“multi-lateral”). Derbyniwyd y disgyblion cyntaf ym 1950 ond parhaodd y gwaith adeiladu, gan Pochin Ltd, tan 1953. Mae'r awyrlun, trwy garedigrwydd Llywodraeth Cymru, yn dangos y safle ym 1951.

Agorwyd yr ysgol yn ffurfiol gan Florence Horsbrugh, Gweinidog Addysg y llywodraeth Geidwadol, ym Mehefin 1953. Erbyn hynny roedd y term “ysgol gyfun” wedi ei fathu. Roedd penderfyniad hefyd wedi’i wneud i enwi’r ysgol newydd ar ôl Syr Thomas Jones, cynghorydd sir a meddyg a fu’n ceisio gwella cyfleusterau addysgol Amlwch cyn ei farwolaeth yn 1945.

Cynlluniwyd yr ysgol gyda digonedd o le a champfeydd ar wahân i’r bechgyn a’r merched. Costiodd £250,000 i'w hadeiladu (dros £5.7m heddiw). Roedd ganddi hyd yn oed gysylltiadau ffôn rhwng yr ystafelloedd dosbarth a'i system radio ei hun! Mae’r adeilad gwreiddiol, a ddyluniwyd ar gyfer 750 o ddisgyblion, ar ben isaf y safle ac fe’i rhestrwyd yn 2001.

Cod post: LL68 9BE    Map

Gwefan Ysgol Syr Thomas Jones