Swyddfa'r gyfreithwraig gyntaf, Stryd Fawr, Conwy

button-theme-womenSwyddfa'r gyfreithwraig gyntaf, Stryd Fawr, Conwy

conwy_agnes_twiston_hughes

Yn Red Lion House yr oedd swyddfa Agnes Twiston Hughes, cyfreithiwr benywaidd cyntaf Cymru. Hwn oedd tafarn y Red Lion tan fis Hydref 1903.

Prynodd John William Hughes yr adeilad yn 1904 am ei bractis cyfreithiol newydd. Roedd gynt yn glerc erthygledig i’r cyfreithiwr lleol James Porter. Gwnaed newidiadau i’r adeilad ym 1905, gan greu dwy siop llawr gwaelod a swyddfeydd ar y llawr cyntaf.

Cafodd ei ferch Agnes ei derbyn i Rhôl y Cyfreithwyr ym mis Mehefin 1923 ar ôl iddi ennill gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn economeg a derbyn nifer o wobrau, gan gynnwys Gwobr John Mackrell (gwobr gan Gymdeithas y Gyfraith) a Gwobr Clements Inn.

Bu'n gweithio ym mhractis ei thad hyd ei farwolaeth ym mis Ionawr 1949, pan ddaeth Agnes yn benadur. Roedd hi hefyd yn gynghorydd tref, a bu'n Faer Conwy ym 1954-1955. Mae portread ohoni mewn gwisg maer yn hongian yn Neuadd y Dref - dangosir yma trwy garedigrwydd Cyngor Tref Conwy. Mae portread ohoni ar y wal yn Neuadd Cymdeithas y Gyfraith yn Chancery Lane, Llundain.

Cymerodd ran blaenllaw yn yr ymgyrch i achub Pont Grog Conwy (gan Thomas Telford) rhag ei dymchwel ar ôl agor y bont newydd ym 1958. Mae'r hen bont bellach yn nwylo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Roedd Agnes yn chwarae golff yng Nghlwb Golff Conwy (Sir Gaernarfon) a daeth yn Gapten Benywaidd y clwb. Roedd hi hefyd yn chwaraewr talentog o'r gêm cerdyn “bridge”. Ymddeolodd ym 1961 a bu farw ar 20 Hydref 1981.

Parhaodd JW Hughes & Co i ffynnu ar ôl ei hymddeoliad, gan symud ychydig o bellter yn y 1970au i Dŷ'r Bank, ar ben isaf Sgwâr Lancaster. Ym 1991 bu i’r busnes gymeryd drosodd Cooper Cummings o Landudno. Erbyn hyn mae gan JW Hughes swyddfa yn Stryd Augusta, Llandudno.

Gyda diolch i Donald C Roberts, o JW Hughes & Co. LLP, ac i Cathryn Williams, o Gymdeithas Hanesyddol Aberconwy, a Ray Castle

Cod post : LL32 8DE    Map

Gwefan JW Hughes & Co. LLP