Cyn Dafarn Yr Angel, 22 Stryd Fawr, Caernarfon

Cyn Dafarn Yr Angel, 22 Stryd Fawr, Caernarfon

Yr adeilad hwn oedd Tafarn yr Angel, a elwid hefyd yn Angel Vaults neu Angel Tavern, yn y 19eg ganrif. William Evans oedd y trwyddedai yn y 1820au i'r 1840au. Trosodd y masnachwr gwin John Jones y dafarn hon yn seleri gwin ddiwedd y 1870au.

Cafodd Thomas Jones, trwyddedai’r Angel ers diwedd y 1890au, anaf i’w ben wrth gael ei daflu o’i gerbyd ym mis Ionawr 1907. Ar ôl gwella’n rhannol, mentrodd i’r stablau ddechrau mis Chwefror, llithro ar rew a chwympo, gan ailagor y briw blaenorol. Bu farw drannoeth.

Bu mab Thomas hefyd farw ar ddamwain, wrth weithio fel hyfforddwr i Samuel Sandbach o Malpas, ger Casnewydd, Sir Fynwy. Ym mis Hydref 1902, ciciodd un o'r ceffylau yn y stablau Thomas yn ei stumog. Bu farw mewn poen difrifol, ac yntau ond yn 27 oed.

Roedd y Angel Inn yn un o’r 10 tafarn yn Sir Gaernarfon a gollodd eu trwyddedau ym mis Gorffennaf 1909, wrth i ynadon Cymru geiso rheoli meddwdod. Yn y flwyddyn flaenorol, roedd 127 o bobl wedi cael eu cosbi am feddwdod yng Nghaernarfon, tref a oedd wedyn â 37 o dafarndai (un i bob 243 o drigolion).

Pan brynwyd yr adeilad drws nesaf (a oedd unwaith yn swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Arfon) gan berchnogion y Black Boy yn 2014, ailddarganfuwyd yr arwydd “Sefydliad Gwin a Gwirodydd”  yn ystod yr adnewyddiad fel rhan o drosi'r eiddo drws nesaf yn dŷ tref Tŷ Dre.

Un o’r straeon rhyfeddaf yn hanes yr Angel oedd diflaniad y cyn-chwarwr John Jones ym mis Chwefror 1880. Yn fuan ar ôl gadael yr Angel Vaults un noson, fe’i gwelwyd ddiwethaf yn cerdded yn Market Street gyda “dynesiaid” (dynes ddrwg), er ei fod yn 75 oed. Arestiodd yr heddlu berson a ddrwgdybir o lofruddiaeth ond er chwilio gyda cŵn ni ddarganfuwyd corff. 

Roedd yr achos yn oer pan dderbyniodd heddlu Caernarfon delegram ym 1894 gan yr heddlu ym Mhontymister, ger Casnewydd. Yno roedd dyn wedi cyfaddef yn wirfoddol i ladd Mr Jones tua 13 mlynedd ynghynt a thaflu'r corff i mewn i faddon asid mewn tannws yng Nghaernarfon. Ni ddaeth yr heddlu o hyd i unrhyw olion dynol yn y tannws, er mawr siom i’r cannoedd o wylwyr, a rhyddhawyd y dyn.

Diolch i Rhiannon James am y cyfieithiad

Cod post: LL55 1RH     Map

Gwefan y Black Boy Inn – i archebu arhosiad yn Tŷ Dre