Hen gartref i ffoaduriaid o Wlad Belg, Crughywel
Hen gartref i ffoaduriaid o Wlad Belg, Crughywel
Byddai Glan y Dŵr, y tŷ y tu ôl i’r giatiau yma, yn cael ei lysenwi’n “Belgian House” yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf pan ganiataodd ei berchennog i ffoaduriaid o Wlad Belg fyw yma. Tŷ preifat yw hwn - peidiwch â mynd drwy’r giatiau.
Adeiladwyd y tŷ mewn sawl cam, gyda’r estyniad olaf yn cael ei ychwanegu ym 1840. Yn nes ymlaen yn y ganrif honno, dyma gartref yr awdur a’r artist Harriet Traherne, yr oedd ei llyfrau yn cynnwys The Mill on the Usk a Romantic Annals of a Naval Family. Brasluniodd sawl golygfa leol. Roedd ei thad, yr Ôl-lyngesydd Syr Hood Hanway Christian, yn ffrind i’r Brenin William IV.
Bu hi farw ym 1913, chwe mis cyn ei phen blwydd yn 100 oed. Roedd wedi dweud wrth ei meddyg am roi asid prwsig (hydrogen syanid) i’w chi Dodo fel na fyddai’n byw i gael ‘ei drin yn wael gan bobl ddiarth’.
Gwerthwyd y tŷ gan ei chefnder i’r groser lleol, James Isaac, a chwiliodd am denantiaid ym mis Mawrth 1914. Ym mis Hydref y flwyddyn honno, bu’r cyntaf o ffoaduriaid o Wlad Belg oedd ym meddiant yr Almaenwyr yn cyrraedd Crughywel. Cafodd pob un o’r 12 lety yng Nglan y Dŵr, ar ôl i Mr Isaac gynnig yr eiddo i’r pwyllgor ffoaduriaid lleol. Honnai pennaeth un o’r teuluoedd oedd ar ffo, M. de Blauw, ei fod wedi colli hen bethau oedd yn werth £25,000 (mwy na £2.3 miliwn heddiw) pan oresgynnodd milwyr o’r Almaen Malines, tref ei febyd.
Merched lleol yn bennaf oedd yn rhedeg y pwyllgor ffoaduriaid. Yr ysgrifenyddes oedd Mrs Pirie-Gordon o Faenor Gwernvale, tra oedd merched eraill, gan gynnwys y Dduges Beaufort, yn darparu dodrefn, llieiniau a hanfodion eraill i’r ffoaduriaid yma. Cafodd ffoaduriaid o Wlad Belg a ddaeth yn ddiweddarach lety mewn pentrefi a ffermydd gerllaw.
Gyda diolch i Ryland Wallace, o Ganolfan Archif Ardal Crughywel, ac i Alison Stedman
Cod post: NP8 1BT Map
I barhau’r daith “Crughywel yn y Rhyfel Byd Cyntaf”, trowch i’r chwith i Ffordd Aberhonddu. Dilynwch y ffordd, gan fynd heibio i’r garej, at Westy’r Bear |