Hen wyrcws Caernarfon

button-theme-workhouses

Mae'r swyddfeydd gyferbyn ag Ysbyty Eryri yn meddiannu'r hen wyrcws, lle'r oedd pobl dlawd yn byw ond yn gorfod gweithio am ei cynhaliaeth. Mae'r ysbyty yn y clafdy a agorwyd yn 1914 ar gyfer trigolion y wyrcws a thrigolion lleol.

Byddai plwyfi yr ardal yn helpu eu tlodion nes i’r gyfraith newid yn 1834 pan ddaeth plwyfi at ei gilydd mewn “Undebau”. Roedd Undeb Caernarfon yn cynnwys plwyfi y ddwy ochr i'r Fenai, lle'r oedd llongau fferi yn rhedeg rhwng Môn a Chaernarfon. Dewiswyd safle ymhell y tu allan i’r dref ar gyfer tloty’r Undeb, a agorodd yn 1846 ac a ddaeth i gael ei adnabod fel Bodfan.

Roedd mynediad yn aml yn cael ei wrthod i bobl oedd yn dioddef o golera, difftheria neu deiffoid, a oedd yn rhemp yn y dref. Derbyniwyd “merched y nos” ond bu’n rhaid iddynt ymolchi â dŵr oer a sebon yn gyntaf. Ceisiai rhai ffermwyr tenant gael mynediad ar ôl cael eu methdalu gan ddegymau, treth Eglwys Lloegr a oedd yn cael ei gwrthwynebu gan gapelwyr.

Roedd peth o fwyd y tloty yn cael ei gynhyrchu gan y trigolion. Roedd llysiau, afalau, riwbob a chyrens yn cael eu tyfu ar lain o dir islaw Bodfan. Gwerthwyd unrhyw gynnyrch dros ben yn y farchnad.  Roedd ganddynt gwt mochyn yno hefyd a byddai’r carcharorion yn pysgota am sewin a brithyll yn y Seiont.

Yn 1892 gwrthwynebodd Undeb Caernarfon benodi arolygydd Deddf y Tlodion ar gyfer Gogledd Cymru nad oedd yn gallu siarad na deall Cymraeg.  Ond aeth yr apwyntiad yn ei flaen a theimlai'r gwarcheidwaid eu bod wedi'u hanwybyddu. Fe wnaethon nhw annog yr A.S. lleol i godi'r mater yn y Senedd.

Roedd y berthynas rhwng staff a meistr a metron y tloty mor ddrwg yn 1907 nes i’r Bwrdd Llywodraeth Leol ymchwilio. Canfuwyd bod nyrs yn clafdy Bodfan yn dangos diffyg parch at y metron, a bod rheolaeth y metron yn wael.

Agorwyd ysbyty newydd, Clafdy Eryri, yma yn 1914 ar gyfer trigolion y wyrcws a phobl leol nad oedd yn gallu fforddio ffioedd meddygol. Fe’i cymerwyd drosodd gan yr awdurdodau milwrol yn 1916. Cyn i’r milwyr clwyfedig cyntaf gyrraedd, symudwyd 31 o dlodion oddi yno i brif adeilad y wyrcws ar y safle. Bu'r gymuned leol yn addurno Clafdy Eryri ym mis Rhagfyr 1916 ac yn anfon anrhegion  Nadolig i'r milwyr a anafwyd, gan gynnwys tyrcwn, gwyddau, sigarets, gemau, sieciau a hancesi.

Diolch i Emrys Llewelyn, ac i Rhiannon James am y cyfieithiad

Cod post: LL55 2YE    Gweld Map Lleoliad