Cyn-Gapel Y Tabernacl, Pwllheli

button-theme-slavesCyn-Gapel Y Tabernacl, Pwllheli

Cafodd yr adeilad hwn ei godi ym 1861 yn lle'r capel Bedyddwyr cynharach. Yn ôl y sôn, cafodd y meindwr uchel ei adeiladu gan saer maen o Ddulyn o'r enw Michael King. Daeth y cerrig wedi eu cerfio, o gylch agoriadau'r ffenestri a'r drws er enghraifft, o Benmon, Môn. Gall y gwaith cerrig eraill a welir ar yr wyneb fod wedi dod i Bwllheli fel balast – cerrig wedi eu llwytho i longau di-lwyth i'w cadw'n sefydlog ar fordeithisu gweigion.

Cyfarfod yn lleol gyntaf a wnaeth y Bedyddwyr yn Abererch yn hwyr yn y 18fed ganrif. Un o'u holelion wyth oedd Marged Jones, a oedd wedi symud i Bwllheli ym 1812 i fyw gyda'i mab, Robert Williams, saer llongau. Roedden nhw'n cynnal gwasanaethau Bedyddiedig yn eu cartref. Wrth i'r gynulleidfa gynyddu, symudodd y gwasanaethau i weithdy saer. Aeth y lle hwnnw'n rhy fychan ac felly agorwyd capel, Capel Bethel, ym 1816 yn ardal Pentre Poeth, Pwllheli.

Portrait of fugitive slave Moses Roper

Rhoddodd Moses Roper (1815-1891), ffoadur o gaethwas y gwelir ei lun ar y dde, sgwrs yn y capel ar 3 Rhagfyr 1841. Ganwyd ef yng Ngogledd Carolina, UDA, wedi i'w fam gael ei threisio gan ei pherchennog. Cafodd Moses ei erlid a'i arteithio cyn ffoi i ryddid ym 1834, yn dilyn rhagor na 15 o geisiadau aflwyddiannus. Cyhoeddodd hanes ei "anturiaethau a'i ffoi" ym Mhrydain ym 1839 a bu'n siarad am ei brofiadau mewn capeli a mannau eraill. Erbyn 1844, yr oedd 4,000 o gopîau wedi cael eu gwerthu o gyfieithiad Cymraeg ei lyfr.

Pan oedd Moses yn siarad yn y capel, y gweinidog oedd y Parchg Joel Jones. Roedd ef yn bregethwr talentog, a'i gynulleidfa fawr yn cynnwys rhai o bobl gyfoethocaf Pwllheli. Bu farw o'r diciâu ym 1844 a daeth y Parchg Morris Williams, a oedd Newydd gyrraedd o'r UDA, i'w angladd. Arhosodd Morris fel gweinidog y capel hyd 1850, pan ddychwelodd i'r UDA.

Dadfeiliodd Capel Bethel a chafodd ei werthu ym 1985. Ym 1989 rhoes y Swyddfa Gartref ganiatâd i'r cyrff gael eu datgladdu o dir y capel a'u hail gladdu yn Deneio. Roedd amryw ohonyn nhw wedi eu claddu ym Methel ar ôl 1861 (doedd gan Y Tabernacl ddim mynwent).

Cafodd Capel Y Tabernacl ei gau yn 2006 ac ail-ddefnyddiwyd yr adeilad i amcanion masnachol.

Gyda diolch i'r Parchedig Ioan W Gruffydd, a'r Dr Hannah-Rose Murray am yr wybodaeth am Moses Roper

Cod post: LL53 5DE    Map