Hen adeilad Neuadd y Sir, Dinbych

button-theme-slavesbutton-theme-crime

Hen adeilad Neuadd y Sir, Dinbych

Mae Llyfrgell Dinbych yn sefyll ar safle’r hen Neuadd y Sir oedd hefyd yn Llys a siambr y cyngor ar un cyfnod. Cafodd ei adeiladu yn c.1572 a’i adnewyddu yn y 18fed a’r 19eg ganrif.

Gofynnodd Robert Dudley, Iarll Caerlŷr, i Esgob Llanelwy drefnu i adeiladu’r Neuadd. ‘Roedd Dudley ( 1532-1588) yn ffefryn gan y Frenhines Elizabeth I ac efallai yn gariad iddi hefyd ac fe wnaeth hi ef yn Farwn Dinbych yn 1564. Credir for y Neuadd yn sefyll a’r tir a roddwyd yn rhodd ganddo.

Cafwyd Gwen ferch Elis, gwehydd ac iachawr llysieuol, yn euog o ddewiniaeth yma yn 1594. Cafodd ei chwestiynu gan Esgob Llanelwy cyn i dribiwnlys yn eglwys Glan Conwy gytuno ei bod yn wrach a’i hanfon i dreial yn Ninbych, lle cafodd ei chrogi yn sgwâr y dref.

Marchnad oedd y llawr gwaelod yn wreiddiol gydag ystafell lys uwchben. Gosododd y Fictoriaid gelloedd yr heddlu i garcharorion oedd yn aros i fynd mewn i’r ystafell lys, i’r Llys sirol (ar gyfer anghytundeb sifil) ac weithiau i’r sesiynau chwarterol (rhagflaenydd llys y goron heddiw). Cyfarfu'r cyngor sir yma.

Yn Rhagfyr 1858, rhoddodd James Watkins, cyn caethwas, ddarlith yn neuadd y dref. Cafodd ei eni yn c.1821 yn Maryland, UDA (nid oedd yn siŵr o’r flwyddyn). Dihangodd i ryddid yn ŵr ifanc, a ffoi i Loegr pan oedd deddfwriaeth America ym 1850 yn ei gwneud yn ofynnol i bob caethwas ddychwelyd i'w perchnogion, hyd yn oed o wladwriaeth lle ‘roedd caethwasiaeth wedi ei wahardd.

Pan oedd yn byw ym Manceinion fe gyhoeddodd lyfr yn son am ei brofiadau. Disgrifiodd y creulondeb wynebodd y caethweision Americanaidd a hynny gan ‘free coloured people’
yn cynnwys dioddefaint y mamau caethweision ‘roedd eu plant wedi eu cymryd oddi arnynt. Dychwelodd i’r UDA pan gafodd caethwasiaeth ei ddiddymu yn 1865.
 
Yn 1868 cafodd trefniadau eu gwneud i gael golau nwy newydd i gloc y Neuadd, gan ailosod lamp a oedd rhannol yn cuddio wyneb y cloc. Yn 1896 bu i bapur newydd gwyno fod y cloc yn annibynadwy, gan beri i bobl y dref gyrraedd yr orsaf drenau, yr eglwys a’r swyddfa bost ar yr amser anghywir. Yn ddiweddar mae wedi bod wyth munud o flaen Amser Cymedrig Greenwich.
 
Yn 1882, achosodd bortread o Dr Evan Pierce, llawfeddyg a meddyg poblogaidd, anghydfod. ‘Roedd y portread i fod ar gyfer siambr y cyngor ond ‘roedd yn rhy fawr felly gosodwyd ar wal yn yr ystafell lys ond ‘roedd hynny’n mynd yn groes i waharddiad ar luniau mewn llysoedd.

Agorodd Neuadd y Dref newydd gerllaw yn 1917.

Cod post: LL16 3NU    Map

Gwefan Llyfrgell a Siop Un Alwad Dinbych