Hen 'Ffordd y Doctor', Dinorwig

Hen 'Ffordd y Doctor', Dinorwig

Yn yr ardal hon, ar lethrau coediog Allt Wen, mae'r llwybr yn croesi gweddillion y lôn a adnabuwyd unwaith fel 'Ffordd y Doctor'.

Roedd yn arwain i fyny at Hafoty, cartref rheolwr y chwarel, Griffith Ellis, yn y cyfnod pan ehangodd y chwarel yn gyflym yn y 19eg ganrif.  Roedd Hafoty wedi'i leoli'n berffaith ar gyfer prif ganolfan y chwarel tan i'r cyfleusterau newydd agor yn Gilfach Ddu, ger y llyn, yn y 1860au.

Yn is lawr, arweiniodd y lôn at ysbyty'r chwarel a agorwyd tua 1860. Ail oruchwyliwr yr ysbyty, o 1875 ymlaen, oedd Dr Thomas Hughes. Ymgartrefodd yn Hafoty, gan deithio i'w waith ar hyd 'Ffordd y Doctor'. Yn flaenorol ef oedd prif lawfeddyg gwaith copr Mynydd Parys, Ynys Môn. Ar ôl ei farwolaeth ym 1890, cynhaliwyd gwerthiant yn "Hafoty" o'i holl "stoc ffermio byw a marw" ynghyd â peth o'i ddodrefn.

Ei olynydd oedd Dr RH Mills Roberts, fuodd yn byw yn Hafoty am rai blynyddoedd ar ddechrau'r 1890au cyn symud i Bodafon, Llanberis, sef y Grosvenor Hotel yn ddiweddarach. Chwaraeodd bêl-droed rhyngwladol dros Gymru.  Gallwch ddarllen mwy amdano ar ein tudalen am yr ysbyty.

Defnyddiwyd y lôn hefyd fel llwybr at Gilfach Ddu i reolwyr oedd yn byw yn ardal Pendraw (i fyny'r allt o Hafoty). Erbyn yr 20fed ganrif, collwyd pen uchaf y lôn gyda'r estyniadau i chwarel Vivian a'r incleiniau.

Ni wyddys pa bryd na pham adeiladwyd y lôn. Fe'i gwelir ar fap o Ystâd y Faenol sy'n dyddio o'r cyfnod cyn uwchraddio'r lôn yn y 1780au i gludo llechi mewn troliau i lawr i'r llyn. Roedd llwybr y trolïau yn rhedeg o Allt Ddu i Gei Newydd, lle gosodwyd y llechi ar gychod i'w cludo ar hyd Llyn Padarn. Lleolwyd Cei Newydd tua'r un man â gorsaf bresennol Rheilffordd Llyn Padarn.

Cyllidwyd y cyfieithiad hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a'r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA) a Chyngor Gwynedd.

Map

button-tour-slate-trail previous page in tournext page in tour