Ysgol Jones Bach, Caernarfon

slate-plaque

Gelwir yr hen adeilad hwn yn “Ysgol Jones Bach”. Ei enw swyddogol oedd The Grammar and Collegiate School, a sefydlwyd ym 1836 gan y Parch James Hews Bransby. Roedd yn glerigwr Seisnig o fodd preifat a oedd â chyfranddaliadau mewn pwll copr Meirionnydd. 

pictureRoedd y Parch Bransby yn byw yn Bron Hendre, y tŷ mawr ar draws y ffordd. Daeth i fyw i Gaernarfon ym 1829 a chododd yr adeilad bach hwn, o bosibl i'w ddefnyddio fel capel cyn ei droi'n ysgol breifat. Arwyddair Lladin yr ysgol oedd Absque Labore Nihil (“Dim byd heb ymdrech”), a buan iawn enillodd enw rhagorol. Bu farw'r Parch Bransby yn sydyn ym 1847 wrth gymryd gwersi, a chladdwyd ef ym mynwent Llanbeblig.

Yna gwasanaethodd Mr C J Reeves fel meistr tan 1862, gyda Dr John Smith Kirk yn olynu am y 24 mlynedd nesaf.

Cymerwyd yr ysgol drosodd ym 1886 gan John Lewis Jones, a bathwyd yr enw poblogaidd “Ysgol Jones Bach” arni. Mae'r hysbyseb ysgol a ddangosir yma yn dyddio o 1896.

Yn ddyn o ddeallusrwydd aruthrol, ganed John yn Lerpwl i rieni o Gymru. Ar ôl ennill cymwysterau addysgu yng Nghaeredin, treuliodd 17 mlynedd fel meistr ac organydd yn Ysgol  Llandwrog Isaf tan 1877, pan aeth i Goleg y Drindod, Dulyn. Yno, graddiodd gan ennill medal aur mewn Hanes, Cyfreitheg ac Economeg.

1896 advertisement for Caernarfon grammar schoolWedi symud symud yn ôl i'r ardal hon, bu'n dysgu'n breifat yn Llanberis cyn agor ysgol yn Sgwâr y Castell yn 1883, gan ymgymryd â'r ysgol ramadeg dair blynedd yn ddiweddarach. Yn ystod y 30 mlynedd y bu'n dysgu yma, paratôdd gannoedd o fechgyn ar gyfer mynediad prifysgol a gyrfaoedd proffesiynol. Yn anarferol am ei amser, ni wnaeth ddefnyddio cansen ar ei ddisgyblion am gamymddwyn ond, er hyn, dywedwyd fod disgyblaeth yr ysgol yn dda.

Caeodd yr ysgol ramadeg ar ei ymddeoliad ym 1917. Yna defnyddiwyd yr adeilad gan Ysgol Ganolog Caernarfon fel ystafell ddosbarth gorlif, ac ar ôl hynny bu’n wag ac wedi’i esgeuluso am nifer o flynyddoedd.

Gyda diolch i Dr Averill Lukic, o Gymdeithas Ddinesig Caernarfon

Cod post: LL55 2HP    Map