Cyn gartref Ellis Davies AS, Lôn Dewi, Caernarfon
Cyn gartref Ellis Davies AS, Lôn Dewi, Caernarfon
Bu'r cyfreithiwr a'r AS Ellis Davies yn byw yma, yn Graig Wen, am 30 mlynedd hyd at ei farwolaeth ym 1939. Mae'r llun uchaf yn ei ddangos yn yr ardd yma c.1934 efo George Lansbury, arweinydd y Blaid Lafur. Mae’r llun isaf yn ei ddangos gyda pherthnasau, ynghyd â’r Prif Weinidog David Lloyd George a Nath Roberts, asiant Lloyd George.
Ganwyd Ellis William Davies ar 12 Ebrill 1871 yn Gerlan, Bethesda. Roedd ei dad David yn swyddog chwarel. Addysgwyd Ellis ym Methesda a Choleg Lerpwl.
Gan adael yr ysgol yn 16 oed, bu’n gweithio fel clerc yswiriant. Gan astudio gyda'r nos, pasiodd arholiadau Cymdeithas y Gyfraith i ddod yn gyfreithiwr, gan gyflawni anrhydeddau o'r radd flaenaf yn yr arholiad terfynol.
Dechreuodd ei yrfa fel cyfreithiwr ym Methesda. Yn y pen draw, sefydlodd bractis cyfraith yng Nghaernarfon. Yn 1901 priododd Mary Grace Hughes o Borthmadog a gyda'i gilydd cawsant bedwar o blant: merch Gwenith a meibion, sef tripledi: David, John a Richard.
Yn 1904 daeth yn gynghorydd sir ac yna'n henadur i Gerlan. Roedd hefyd yn gyfreithiwr i Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru. O fis Mehefin 1906 hyd etholiad cyffredinol 1918, roedd yn Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros Adran Eifion yn Sir Gaernarfon.
Roedd yn wleidydd radical ar asgell chwith ei blaid gyda gogwydd o blaid Llafur. Eisteddodd ar bwyllgorau seneddol ar ail-lunio diwygio tir, system y rheithgor, diwygio etholiadol, prynu gorfodol gan awdurdodau lleol a diwygio Tŷ'r Arglwyddi.
Roedd yn San Steffan am y Rhyfel Mawr i gyd, gan wrthwynebu polisi rhyfel David Lloyd George yn rheolaidd. Dychwelodd i'r Senedd ym 1923 fel yr aelod Rhyddfrydol dros Sir Ddinbych lle bu tan 1929 pan ymddeolodd oherwydd afiechyd. Gallwch ddarllen mwy am ei yrfa wleidyddol ar ein tudalen am gyn Glwb Rhyddfrydol Caernarfon.
Tra yn Llundain ymunodd â chwmni cyfreithwyr o fri ac ef oedd yr uwch bartner erbyn iddo adael. Roedd yn Ymddiriedolwr y Midland Bank ac yn gyfarwyddwr yn Selfridges (siop adrannol Llundain).
Yng Nghaernarfon cadwodd ei gysylltiad ag Ellis Davies & Co. (y cwmni yr oedd wedi'i sefydlu), a redwyd wedyn gan ei ferch a dau fab sydd wedi goroesi. Bu'n ddiacon yng Nghapel Moreia (Methodist Calfinaidd), Caernarfon, am nifer o flynyddoedd.
Gyda diolch i Richard Ellis Davies (ŵyr), o Gymdeithas Ddinesig Caernarfon, am wybodaeth a'r lluniau
Cod post: LL55 1BH Map