Cyn gartref i AS benywaidd cyntaf Cymru, Cricieth

button-theme-womenCyn gartref i AS benywaidd cyntaf Cymru, Cricieth

criccieth_megan_lloyd_george

Y tu hwnt i'r giât yma mae Brynawelon, a fu unwaith yn gartref i Megan Lloyd George, AS benywaidd cyntaf Cymru. Mae bellach yn gartref nyrsio. Mae croeso i chi fynd o amgylch y gerddi i weld y tŷ o'r tu allan, ond os gwlewch yn dda a wnewch chi canu’r gloch i roi gwybod i'r staff am eich presenoldeb. 

Etholwyd tad Megan, David Lloyd George, yn AS dros Fwrdeistrefi Caernarfon ym 1890. Roedd wedi priodi Margaret Owen, merch ffermwr lleol, ddwy flynedd yn flaenorol ac ymgartrefodd y pâr priod ym Mrynawelon, hanner tŷ pâr mawr ar Ffordd Porthmadog, Cricieth. Oherwydd dyletswyddau seneddol roedd rhaid iddo gadw cartref arall yn Llundain. Magwyd y teulu yn y ddau le - gyda Megan yn treulio rhai o'i blynyddoedd ffurfiannol yn 10 a 11 Stryd Downing - ond roedd yn well gan Margaret fyw yng Nghricieth.

Ym 1909 penderfynodd David, a oedd yn Ganghellor y Trysorlys erbyn hynny, adeiladu tŷ gwych newydd yn y fan yma, yn edrych dros y dref a gyda golygfeydd drosodd i Eryri. Rowland Lloyd Jones o Gaernarfon oedd y pensaer. Symudwyd yr enw Brynawelon o'r hen dŷ. Daeth David yn Brif Weinidog ym 1916. Codwyd ei ddelw yng Nghaernarfon yn 1921. Mae'r llun isod, trwy garedigrwydd archif Gussie Hermenie Durrad Cluley, yn dangos y tŷ newydd ei gwblhau oddeutu’r flwyddyn 1911, efo David a Margaret yn eistedd y tu allan.

criccieth_brynawelon_in_1911Gwnaethpwyd Margaret yn Fonesig yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf am ei gwaith gwirfoddol ac ymgartrefodd ym Mrynawelon. Fe'i hetholwyd i Gyngor Tref Cricieth ym 1919 a bu'n gweithio'n ddiflino i'r gymuned, yn ogystal â chyflawni gwaith etholaethol ar ran ei gŵr. Bu farw ym 1941.

Megan (wele y llun uchod ar y dde, trwy garedigrwydd Jean Emberton) oedd y ferch ieuengaf, a anwyd ym 1902. Cafodd ei hethol yn AS Rhyddfrydol dros Ynys Môn ym 1929 - yr AS benywaidd gyntaf yng Nghymru. Daeth yn Ddirprwy Arweinydd y blaid ond collodd ei sedd ym 1952. Ym 1955 ymunodd â'r Blaid Lafur ac enillodd sedd Caerfyrddin ym 1957. Ym 1954 cafodd ei hethol yn Gadeirydd Cyngor Tref Cricieth. Etifeddodd Brynawelon yn dilyn marwolaeth ei thad ym 1945 a bu'n byw yma am weddill ei bywyd. Bu farw ym 1966.

Gyda diolch i Robert Cadwalader, Jean Emberton ac archif Gussie Hermenie Durrad Cluley

Cod post: LL52 0LN    Map

National Cycle Network Label button_nav_8W-NSNavigation next button