Cyn gartref y swffragydd Charlotte Price White, Bangor

button-theme-womenCyn gartref y swffragydd Charlotte Price White, Bangor

Roedd y swffragydd Charlotte Price White (1873-1932) yn byw yma ar un adeg. Rockleigh oedd enw’r tŷ y pryd hwnnw. Yn 2021 dadorchuddiwyd Plac Porffor Menywod Nodedig yng Nghymru yma i’w hanrhydeddu.

Portrait of Charlotte Price White

Ganed hi’n ferch i Mr a Mrs James Bell o Briggart, ger Dumfries, ac fe briododd Price Ffoulkes White, periannydd i Gwmni Trydan Bangor.

Roedd hi’n un o’r myfyrwyr benywaidd cyntaf i astudio gwyddoniaeth yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru Bangor, gan raddio yn y 1890au. Bu’n athrawes ysgol yn Llundain cyn dychwelyd i Fangor i briodi yn 1902. Credir iddi fyw weddill ei bywyd yn Rockleigh.

Daeth yn ysgrifennydd a phrif ysgogydd cangen Bangor o Undeb Cenedlaethol Cymdeithasau’r Etholfraint i Fenywod (NUWSS), mudiad a oedd yn ymgyrchu i sicrhau’r hawl i fenywod bleidleisio mewn etholiadau Seneddol. Roedd hi’n un o ddwy fenyw yn unig o’r ardal a gwblhaodd y siwrnai gyfan i Lundain ar y Bererindod dros yr etholfraint i ferched yn 1913.

Roedd hi’n aelod gwreiddiol o gangen gyntaf Sefydliad y Merched (WI) a sefydlwyd yn Llanfairpwll yn 1915.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf roedd ei gwaith dros ymgyrch y rhyfel yn cynnwys gweithredu fel ysgrifennydd i’r pwyllgor a gododd dros £1200 yng ngogledd Cymru i ariannu a chyflenwi cyfarpar Uned Ysbyty Cymreig i wasanaethu’r Ysbyty Menywod Albanaidd yn Serbia. Yn ddiweddarach, bu’n ysgrifennydd mygedol pwyllgor i gynnal ac addysgu bachgen oedd yn ffoadur o Serbia.

Yn 1926 roedd hi'n un o'r menywod cyntaf i'w hethol i Gyngor Sir Caernarfon. Yn y flwyddyn honno chwaraeodd ran flaenllaw, ynghyd â Mary Silyn Roberts a Mary Gladys Thodau, yn y Bererindod Heddwch a aeth o Benygroes i wrthdystiad yn Hyde Park, Llundain.

Roedd ganddi hi a’I gŵr ddau o blant: merch, Margaret, a mab, David Archibald, a ddaeth yn AS Ceidwadol dros Fwrdeisdrefi Caernarfon 1945-50.

Pan fu farw Charlotte yn ddisymwth yn 1932 ni dderbyniwyd dymuniad ei theulu i gael angladd breifat iddi gan gymaint oedd yr ymdeimlad o sioc ac oherwydd ei hamlygrwydd cyhoeddus. Chwifiwyd y baneri ar hanner mast. Roedd capel y Presbyteriaid Saesneg yn orlawn a chafwyd bron i gant o dorchau blodau.

Gyda diolch i Annie Williams a Shan Robinson o Archif Menywod Cymru, ac i Sian Rhiannon Williams am y cyfieithiad. Ymhlith y ffynonellau mae: ‘Votes for Women: The North Wales Suffragists’ Campaign’ gan Barbara Lawson-Reay; a ‘The Women’s Suffrage Movement in Wales’ gan Ryland Wallace

Cod post: LL57 2SS    Map

Gwefan Archif Menywod Cymru – lawrlwythwch Taith Treftadaeth Menywod Bangor