Cyn gaffi Lake & Co, Caernarfon

Cymerwch eiliad i werthfawrogi dyluniad a chrefftwaith blaen y siop hon. Mae paneli ffenestr crwn mewn fframiau cerfiedig yn amgáu man arddangos annibynnol o flaen y drysau. Mae teils mosaig yn sillafu “Lake & Co”.

Advertisement for Lake & Co cafe from 1916

Yr adeilad oedd caffi Lake & Company, a ddarlunnir yn hysbyseb ddwyieithog 1916 gyda dau gar modur wedi'u parcio y tu allan. Mae’r testun Cymraeg yn dweud mai’r caffi yw’r lle mwyaf cyfleus a chyfforddus ar gyfer pryd gwirioneddol dda, ac yn gweini te byd-enwog y Fedal Aur, a gyda phob math o ddanteithion o safon uchel am brisiau rhesymol.

Ffurfiwyd Lake & Co Ltd ym mis Tachwedd 1896, gyda £30,000 o gyfalaf, i gymryd drosodd tri busnes lleol. Roedd DT Lake yn ymwneud â dau ohonyn nhw, ac yn y cwmni newydd. Roedd eu gweithgareddau'n cynnwys cyflenwi nwyddau a thecstilau a cynhyrchu ffabric, tybaco a snisin. Daeth y cwmni yn wneuthurwr tybaco mwyaf Gogledd Cymru. Roedd ei gynnyrch yn cynnwys Cymro Bach Shag, Dewi Sant Virginia Smoking Shag, tybaco ar gyfer sigarets  Y Ddraig Goch, a Te Dwyryd.

Roedd rheolaethau bwyd adeg rhyfel yn mynnu bod gweithgareddau cyfanwerthu a manwerthu yn cael eu gwahanu. Ar 1 Hydref 1917 rhoddodd Lake & Co y gorau i werthu bwydydd, blawd a bara mewn tri safle, gan eu gwneud yn gyfanwerthwyr yn unig, gan ei bod yn anodd cydymffurfio â’r rheoliadau “gyda staff bron yn gyfan gwbl wedi disbyddu o’i aelodau profiadol”. Roedd llawer o ddynion wedi gadael Caernarfon i ymuno â'r lluoedd arfog.

Bwyty Harper’s oedd yr adeilad, a fynychwyd gan bobl ‘dosbarth uwch y Dre’, am ran helaeth o’r 20fed ganrif. Y deiliad heddiw yw Mantell Gwynedd, sy'n cefnogi gwasanaethau gwirfoddol yng Ngwynedd.

Ar ochr arall y ffordd (lle gwelwch Ganolfan Pen-llyn) safai'r Nelson Emporium, siop adrannol Richard Owen & Co. Roedd yn boblogaidd gyda sawl cenhedlaeth o siopwyr o bob rhan o'r rhanbarth. Ymhlith y nwyddau a oedd ar werth yno ym 1846 roedd: hancesi Indiaidd; deunydd ar gyfer trowsus; melfared a moleskins; siolau; bresys i ddynion a bechgyn; ffabrig llenni chintz; a blancedi a chwiltiau. Ailadeiladwyd yr Emporium ar ôl tân, a'i ddymchwel ar ôl ail dân.

Cod post: LL55 1AF    Map

Website of Mantell Gwynedd