Cyn Fferyllfa Ffyddlon, Tan y Coed, Bangor
Yn 1809 dechreuodd grŵp o fonheddwyr lleol, a oedd yn awyddus i nodi 50 mlynedd ers teyrnasiad y Brenin Siôr III, godi arian ar gyfer fferyllfa ym Mangor. Roeddent yn dymuno darparu cyfleuster lle "bydd y tlodion yn cael meddyginiaeth, ac yn cael cymorth cyngor meddygol, gratis".
Enw'r cyfleuster oedd y Fferyllfa Ffyddlon am ei fod yn arwydd o "hoffter a theyrngarwch pobl leol i'w sofran annwyl". Dyluniwyd yr adeilad gan Benjamin Wyatt, a gynlluniodd y Theatre Royal yn ddiweddarach yn Drury Lane yn Llundain ac a addasodd dai mawreddog Dug Wellington. Cynlluniodd Westy'r Penrhyn Arms hefyd, a safai ger y Fferyllfa Ffyddlon.
Mae plac llechi mawr yn y porth yn cofnodi i'r fferyllfa agor yn swyddogol ar 25 Hydref 1810, y dyddiad "a ddewiswyd yn arbennig" fel diwrnod olaf hanner canmlwyddiant teyrnasiad y brenin. Mae plac arall yn nodi bod y safle wedi ei ddewis "i fod yn weladwy o Fiwmares fel bod trigolion ffyddlon ac elusennol Ynys Môn wastad yn gallu ei weld".
Daeth Jame Henry Cotton, deon eglwys gadeiriol Bangor, yn un o brif gefnogwyr y fferyllfa. Yn ffraeth dywedodd fod y cyfleuster yn rhoi "rhwymedau brenhinol".
Roedd y fferyllfa wedi brechu llawer o bobl yn erbyn y frech wen. Caeodd yn 1845, pan gafodd ei ddisodli gan Ysbyty Sir Gaernarfon ac Ynys Môn. Yna cafodd ei ymestyn ac ailfodelu mewnol fel tŷ preifat. Parhaodd y defnydd hwn tan ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Y tir i'r dwyrain, bron i'r bont dros dorri'r ffordd, oedd gardd y tŷ.
Roedd yr adeilad yn eiddo i ystad y Penrhyn yn y 1960au, ac yn ddiweddarach roedd yn eiddo i gwmni o benseiri a ddefnyddiodd y llawr uchaf fel swyddfa arlunio. Roedd gan Dŵr Cymru swyddfeydd yma ar ôl hynny, ac erbyn hyn mae'r adeilad yn gartref i feddygfa filfeddygol Evelyn Barbour-Hill.
Roedd y toriad o flaen yr adeilad yn rhan o welliant Thomas Telford o'r ffordd rhwng Llundain a Chaergybi. Roedd hyn yn torri allan dringfa a disgyniad a fyddai wedi blino'r ceffylau a dynnai’r coetsys.
Diolch i Evelyn Barbour-Hill, ac i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad
Cod post: LL57 1PX Gweld Map Lleoliad