Y cyn Neuadd Feddygol, siop Joe Brown yn awr, Llanberis
Y cyn Neuadd Feddygol, siop Joe Brown yn awr, Llanberis
Adeiladwyd tua 1830 ac ar un adeg roedd yn Neuadd Feddygol y pentref yn dosbarthu meddyginiaethau. Roedd yn sefydliad iechyd pwysig ymhell cyn dyfodiad y GIG (NHS). Pan roedd D P Williams yn rhedeg y Neuadd roedd hefyd yn bwysig fel un i ledaenu negeseuon iechyd cyhoeddus. Er enghraifft, yn 1872 fe ddywedodd nad oedd y Frech Wen yn lledaenu drwy’r pentref. Cynhyrchodd lythyrau gan dri doctor lleol fel cadarnhad o hyn.
Yng nghyfrifiad 1881 gwelwyd fod y cyfansoddwr Joseph Parry o Ferthyr Tudful yn aros yma gyda’i fab Joseph Haydn Parry. Roeddynt i roi perfformiad y noson nesaf yn neuadd y pentref. Parry oedd cyfarwyddwr cerdd cyntaf Prifysgol Aberystwyth. Ei gyfansoddiad byd-enwog oedd y gân serch Myfanwy. Mae anthem genedlaethol De Affrica wedi ei sylfaenu ar ei emyn diwn Aberystwyth.
Bu’r adeilad yn wag am flynyddoedd yn y 1950au a’r 60au. Yn 2021, cofiodd Gwyndaf Hughes y byddai plant lleol yn mynd i mewn drwy ffenestr yn y cefn i gael sgwrs allan o’r tywydd. Roedd yna ddroriau pren cywrain ar un wal i gynnwys y moddion a’r enwau Lladin, ac yna’r Saesneg, arnynt mewn sgript euraidd clir.
Yn 1965 agorodd Joe Brown a’i wraig Val siop yma. Dyma lun gan John Cleare ohono’n uchel uwch y môr. Fe’i cysidrwyd fel dringwr mwyaf ei genhedlaeth. Ganed Joe yn un o hofelydd Manceinion yn 1930. Trwy ddamwain y canfu ei hoffter o ddringo tra’n gwersylla yn swydd Derbi yn 16 oed. O fod yn brentis adeiladwr roedd yn gryf ac aeth a’i dalent naturiol ag o i gyflawni'r dringfeydd caletaf ac yna i greu rhai ei hun.
O’i amrywiol ddringfeydd saif rhai fel dringo Kangchenjunga, trydydd mynydd uchaf y byd, a Tŵr Mustagh (yng nghadwyn Karakoram) fel uchafbwyntiau.
Fe gynorthwyodd archeolegwyr gyrraedd ogofau anhygyrch yn Petra, Yr Iorddonen, chwiliodd am aur coll yr Inca yn Ne American a hyd yn oed chwilio am yr Ieti yn Nepal! Fe’i ffilmiwyd yn dringo i sawl ffilm antur. I weld mwy am ei anturiaethau gweler y troednodion.
Yma yn Eryri oedd calon Joe gyda’i golygfeydd gwych, ei hanes cyfoethog a’i amrywiol fathau o greigiau. Ei hoff glogwyn oedd Clogwyn Du’r Arddu sydd tan gopa’r Wyddfa yn wynebu Llanberis. Yn 2011 cafodd yr anrhydedd CBE am ei wasanaeth i ddringo a mynydda.
Ei ddringfa olaf oedd ym mwlch Llanberis, pan oedd yn 80. Cwynodd fod ei phengliniau’n brifo gormod wrth ddod i lawr. Bu farw yn Ebrill 2020.
Gyda diolch i Zoe Brown (Merch Joe), John Cleare, Ken Jones a Gwyndaf Hughes
Cod post: LL55 4HA Gweld Map Lleoliad
Gwefan Joe Brown a’r Siop Dringwyr
Troednodion: Anturiaethau Dringo Joe Brown
Yn 23 oed fe wahoddwyd Joe i alldaith i Kangchenjunga sef y trydydd mynydd uchaf yn y byd ac ar y pryd y mynydd uchaf nas goncrwyd. Ef oedd y person dosbarth gweithiol cyntaf i’w wahodd ar Alldaith Genedlaethol Himalaia. Y bwriad oedd archwilio ar gyfer alldaith yn y dyfodol.
Profodd y tîm mor gryf fel y gwnaed ymgais i’r copa. Fe gyrhaeddodd Joe y copa gyntaf gyda George Band, aelod ieuengaf y tîm, gan ei wneud yn enw enwog. Cytunodd y ddau i beidio â sefyll ar y copa gan ei fod yn sanctaidd i bobl Sikkim.
Dychwelodd at ei waith fel adeiladwr ond daeth teledu ar ei ôl ac fe fu’n gyson ar y sgrin. Fe fu’n darlledu dringfeydd allanol, pysgota eithafol, a gwaith technegol ar olygfaol ddringo mewn ffilmiau fel rhai James Bond, Rambo a hyd yn oed yn sefyll i mewn fel Robert de Nero yn The Mission.
Y flwyddyn ar ôl Kangchenjunga Joe oedd y cyntaf i ddringo Tŵr Mustagh, Pakistan, gyda Ian McNaught-Davis fel rhan o alldaith fach anffurfiol. Gwell oedd gan Joe deithiau mewn grwpiau bach o ffrindiau yn hytrach na’r rhai mawr broffil uchel.
Dros hanner canrif fe deithiodd Joe yn eang, yn cynnwys dringo Ismoil Somoni, El Torro, Roraima, Trango Tower, Cotaphaxi, Thalaysagar, Denali, Cefnen GO Everest a Latok II.