Hen Sinema’r Palace, Conwy

button-theme-history-for-all

British Sign Language logo Hen Sinema’r Palace, Stryd Fawr. Conwy

Adeiladwyd y Palace Cinema ym 1935, wedi’i dylunio gan Sidney Colwyn Foulkes o Fae Colwyn. Daeth y sinema yn lle o leiaf ddau adeilad cynharach, un ohonynt oedd Banc y Metropolitan.

Yn ystod y gwaith dymchwel, daethpwyd o hyd i blac carreg lle roedd llythrennau a rhifau wedi’u cerfio, o bosibl gan saer maen yn ymarfer ei grefft ganrifoedd yn ôl. Gallwch weld y plac yn y wal dalcen uchaf, wedi’i gosod yn y gwaith cerrig o’r 1930au. Hefyd yn y wal honno mae twll ffenest dal gyda gratin haearn bwrw, sy’n darlunio wiwerod a pheunod mewn cangen neu goeden.

Arallgyfeiriodd y Palace Cinema yn y 1970au i gynnal cyngherddau, sioeau theatr a bingo. Daeth dangos ffilmiau i ben yn y 1980au cynnar a throsglwyddwyd yr awditoriwm i gynnal gemau bingo, a ddaeth yn ei dro i ben yn hwyr yn 2012.

Gyda diolch i Ray Castle

Cod post: LL32 8DB    Map