Hen felin llechen ysgrifennu, Clwt y Bont, Deiniolen
Mae'r hen adeilad melin hwn bellach yn gartref i Seindorf Arian Deiniolen, a sefydlwyd gan weithwyr llechi yn 1835.
Cynhyrchodd sawl melin yng Nghlwt y Bont lechi ysgrifennu. Roedd y melinau mwyaf yn eiddo i Samuel Jones. Yn 1828, pan oedd ond yn 12 oed, cerddodd o Ddolgellau i Glwt y Bont i fanteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael yn yr ardaloedd chwarelyddol llechi.
Dros y degawdau canlynol agorodd sawl ffatri, gan gynnwys Gwaith Llechi Glandinorwig yn 1853. Yr adeilad a welwch yma heddiw yw'r rhan o'r gwaith sydd wedi goroesi. Roedd yn cynhyrchu llechi 'Coron' i blant ysgol ysgrifennu arnynt, cyn i bapur gael ei gynhyrchu'n rhad.
Roedd y ffatri yn cael ei bweru gan olwyn ddŵr. Daethpwyd â dŵr o afon Caledffwrd i'r olwyn ar hyd traphont, a ddangosir yn llun 1910 gyda'r felin ar y chwith ac ysgol (sydd bellach wedi'i ddymchwel) ar y dde. Roedd ras y felin yn adfeiliedig erbyn hynny. Gallwch weld un o bileri'r draphont ddŵr yn y maes parcio i'r gogledd-ddwyrain o'r adeilad.
Yng Nghorlan y Bont gerllaw (i'r dwyrain) mae darn o'r llifddor wedi goroesi a oedd yn gadael dŵr i'r draphont ddŵr. Roedd y llifddor ger y wal lle mae'r bechgyn yn eistedd yn yr hen lun.
Erbyn 1860 roedd Samuel wedi agor ffatri fwy yng Nghlwt y Bont. Mae pen llythyrau'r cwmni yn dangos detholiad o'i safle, a phenawdau yr adrannau ar gyfer sgleinio llechi, fframio a gorffen, a llifio a hollti llechi. Gelwir yr allt i fyny am Clwt y Bont a Deiniolen yn ‘Allt Sam’ hyd heddiw.
Ffurfiwyd band Deiniolen yn 1835 gan weithwyr llechi oedd am chwarae offerynnau cerdd mewn cyngherddau ac i nodi achlysuron arbennig. O fewn blwyddyn, torrodd ffrae ymhlith aelodau'r band oedd yn yfed mewn tafarn leol. Collodd rhai eu hofferynnau cerdd yn y frwydr, ac roedd rhai wedi eu brifo mor wael bu'n rhaid iddyn nhw gymryd amser i ffwrdd o'r gwaith!
Mae gan Seindorf Arian Deiniolen hanes hir o gystadlu mewn gwyliau band a'r Eisteddfod Genedlaethol ac mae wedi ennill nifer o wobrau. Yn 2019 ffurfiodd grŵp ychwanegol ar gyfer pobl nad oeddent erioed wedi chwarae o'r blaen neu heb chwarae ers blynyddoedd lawer. Mae'r grŵp wedi galluogi llawer o drigolion lleol i fwynhau creu cerddoriaeth gyda'i gilydd.
Gyda diolch i Gareth Roberts, o Fenter Fachwen, ac i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad
Cod post: LL55 3EB Gweld Map Lleoliad
Gwefan Seindorf Arian Deiniolen (Facebook)