Cymraeg Glasdir, Plas yn Dre
Glasdir, Plas yn Dre, Llanrwst
Ar ddechrau’r 19eg ganrif safai plasdy yma o’r enw Plas yn Dre (gweler y llun ar y dde). Safai o flaen rhes o goed ffawydd a thu ôl I wal fawr a wahanai’r manordy â Ffordd yr Orsaf.
Yn y 1930au cynnar adeiladwyd y sinema ‘Luxor’ yma. Cafodd ei agor yn swyddogol ar ddydd Iau, 2 Fehefin 1938. Mae'r llun isod yn dangos y sinema newydd sbon.
Yn y 1960au cynnar adeiladwyd y llys a’r swyddfa heddlu. Yr Arglwydd Raglaw, Cyrnol J C Wynne Finch, a’i agorodd yn swyddogol ar 14 Fawrth 1963. Mae’r swyddfa heddlu dal ym Mhlas yn Dre heddiw, wrth ochr yr orsaf ambiwlans a’r llyfrgell.
Caeodd y sinema ym 1966 a bu ddefnyddio’r adeilad fel siop KwikSave tan 1996. Ar ôl hyn roedd yr adeilad yn wag nes bu ei ddymchwel yn 2004.
Yn 2007, adeiladwyd Glasdir ar y safle. Mae Glasdir yn cynnig cyfleusterau cynadleddau, cyfarfod, arddangosfa a hyfforddiant i hyd at 160 o bobl.
Côd post: LL26 0DF Map