Tafarndy’r Gough, Ystradgynlais

PWMP logo sign-out

Tafarndy’r Gough, Ystradgynlais

Caffi a thafarn yw Tafarndy’r Gough erbyn hyn ac mae wedi bod yn lleoliad cymunedol ers oes Fictoria. Fe’i henwir ar ôl teulu cyfoethog y Gough o Ynyscedwyn.

Yn 1881, gwahoddwyd contractwyr adeiladu i adael tendrau dan sêl yn Nhafarndy’r Gough ar gyfer ail-adeiladu Pont Claypon oedd gerllaw. Gallent weld y darluniau a manylion y gwaith yn y dafarn.

Cynhaliwyd cwestau yma weithiau. Ym mis Awst 1888, cafodd Daniel Griffiths, 11 mlwydd oed ei gludo i mewn i Dafarndy’r Gough wedi damwain ar gilffyrdd Rheilffordd y Midland oedd gerllaw. Roedd ef a ffrind yn chwarae ar dryciau gwag pan ymddangosodd injan stêm yn ddisymwth. Brysiodd y bechgyn i lawr o’r tryciau ond cwympodd Daniel rhwng y rheiliau a chafodd ei drywanu gan fecanwaith brecio'r tryc. Bu farw ychydig funudau yn ddiweddarach. Roedd ei dad, William, yn gweithio yng Ngwaith Glo Ystrad Fawr.

Ym mis Mehefin 1914, trosglwyddwyd trwydded y dafarn i John Griffiths, cyn chwaraewr gyda Chlwb Pêl-droed Ystalyfera. Wedi dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf, aeth John Griffiths i Ghana, sef trefedigaeth Brydeinig a adwaenwyd fel yr Arfordir Aur, i weithio ar “weithrediadau mwyngloddio pwysig”. Roedd y drefedigaeth yn ffynhonnell aur a manganîs, a ddefnyddiwyd wrth gynhyrchu dur caled. Dychwelodd o’r Affrica ym mis Rhagfyr 1917.

Cafodd Tommy Griffiths o Dafarndy’r Gough ei anafu yn 1915 o fewn ymdrech drychinebus y Cynghreiriaid i oresgyn Twrci trwy benrhyn y Gallipoli. Fe fu’n cael adferiad mewn cartref ger Aberhonddu. Gwasanaethodd Evan, ei frawd gyda byddin Canada ac fe’i hanafwyd yng Ngwlad Belg yn 1915. Fe fu angen llawdriniaethau niferus arno ac fe fu yn yr ysbyty am nifer o fisoedd.

Yn 1916, cafodd trwydded y dafarn ei throsglwyddo o Mrs E Griffiths i Eli Howells. Yn 1919, derbyniodd Pioneer W Howells, o Dafarndy’r Gough siec oddi wrth y Pwyllgor Derbyn Milwyr a Morwyr Lleol am ei wasanaeth yn ystod y rhyfel gyda’r Peirianwyr Brenhinol. Roedd y pwyllgor, a sylfaenwyd yn 1916, wedi cyflwyno sieciau erbyn hynny a oedd yn gyfanswm o £450 i ddiolch i ddynion lleol am “wneud eu rhan”.

Roedd y dafarn yn lleoliad ym mis Mawrth 1919 ar gyfer cyfarfod cangen leol Cymdeithion y Rhyfel Mawr (Comrades of the Great War),  a oedd yn cynrychioli milwyr oedd wedi dadfyddino a gweddwon rhyfel, gan uno’n ddiweddarach gyda grwpiau eraill i ffurfio’r Lleng Brydeinig.

Cod post: SA9 1ES    Map

I barhau gyda thaith Ystradgynlais yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, cerddwch tuag at y de hyd at Parc Diamond, ar ddiwedd Heol Glantawe
POWYS WAR MEMORIAL PROJECT  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button