Cerdyn post Bae Colwyn: Teithiau eliffant mecanyddol
Mae’r cerdyn post gwenithfaen hwn ar y prom ym Mae Colwyn yn cofio’r babi eliffant mecanyddol a oedd yn cludo ymwelwyr ar hyd y prom yn yr 1950au.
Cafodd ei ddyfeisio gan Frank Smith o Morecambe, Sir Gaerhirfryn, ar ddiwedd yr 1940au ar ôl trip i sw. Cafodd ei eliffantod eu cynhyrchu'n fasnachol wedi hyn.
Roedd y creadur ym Mae Colwyn yn rhedeg ar olwynion oedd wedi eu pweru gan beiriant petrol dwy-strôc drwy yriant belt. Roedd ei geidwad yn cerdded ochr yn ochr ag ef tra bo’r plant yn eistedd ar feinciau a oedd yn rhedeg hyd gefn yr eliffant. 6d oedd y ffi (yr hen chwecheiniog). Roedd yn rhaid i’r ceidwad gael trwydded yrru. Roedd yr eliffant yn teithio ar gyflymder o oddeutu 3.2km yr awr (2mya).
Roedd y rheilffordd fach yn daith boblogaidd arall ar hyd y prom, a adeiladwyd yn yr 1940au ac a gaeodd yn yr 1980au. Roedd y trac bychan yn rhedeg rhwng arglawdd y rheilffordd a ffordd y prom, o’r pier hyd gyffordd y ffordd rhwng Parc Eirias (lle gallwch weld canolfan chwaraeon dŵr Porth Eirias bellach). Roedd y cerbydau bychan yn cael eu tynnu gan locomotif stêm nes iddo gael ei ddisodli yn yr 1960au gan beiriant hylosgi mewnol, yn rhit anargyhoeddiadol locomotif stêm.
Cod post: LL29 8PT
Cliciwch yma am fap o leoliad y cerdyn post.