Cerdyn post Bae Colwyn: Y promenâd Fictoraidd
Cerdyn post gwenithfaen: Y promenâd Fictoraidd
Mae’r cerdyn gwenithfaen hwn ar y prom ym Mae Colwyn yn ymwneud â’r promenâd gwreiddiol. Roedd y prom wedi gwella’r mynediad i’r traeth i ymwelwyr, ac wedi llunio ffordd drwodd ar hyd y traeth a chadw moroedd garw i ffwrdd o arglawdd y rheilffordd.
Adeiladwyd adrannau o’r prom ar amseroedd gwahanol, o 1870 ymlaen. Mae’r hen ffotograff isod o ben Llandrillo-yn-Rhos o’r traeth yn dangos sut roedd glan y môr yn edrych cyn y prom.
Yn dilyn tirlithriad, fe atgyfnerthodd y London and North Western Railway droed yr arglawdd rhwng y promenâd gorffenedig a’r orsaf rheilffordd yn 1890. Ym mis Gorffennaf 1896 cynhaliodd y cyngor trefol seremoni i nodi cychwyn y gwaith ar adran newydd o’r morglawdd a'r prom, a oleuwyd gan olau trydan o’r cychwyn.
Mae’r cerdyn post gwenithfaen yn dangos fan ymdrochi Fictoraidd. Byddai ymwelwyr cefnog yn newid i mewn ac allan o’u gwisgoedd nofio tu mewn i’r faniau.
Yn 1897 cwynodd ysgrifennydd llythyr anhysbys i’r Weekly News fod gan Fae Colwyn gymaint o faniau ymdrochi eu bod yn rhwystro un pen o’r prom tu allan i'r tymor gwyliau. Honnai nad oedd y prom yn ddiogel i gerdded arno, "ag eithrio llwybr troed cul lle mae ychydig o seddi wedi eu gosod”.
Erbyn cychwyn yr 21ain ganrif roedd lefel y traeth wedi disgyn, gan ddatgelu’r morglawdd Fictoraidd ar hyd y prom i’r tonnau trwm. Yn 2008 rhybuddiodd archwilwyr y gallai’r wal fethu, gan achosi difrod i’r rheilffordd, yr A55 ac eiddo arfordirol. Yn 2010 cafwyd storm a ddifrododd 160 medr o’r morglawdd.
Lluniwyd Prosiect Glan Môr Bae Colwyn i osod amddiffynfeydd môr newydd ac ailosod tywod ar y traeth. Cwblhawyd yr adran o’r orsaf rheilffordd i safle chwaraeon dŵr newydd Porth Eirias yn 2014. Cwblhawyd yr adran i orllewin yr orsaf yn 2017.
Gyda diolch i John Lawson-Reay, o Gymdeithas Hanesyddol Llandudno a Bae Colwyn.
Cod post: LL29 8PT
Cliciwch yma am fap o leoliad y cerdyn post.