Castell Gwrych, Abergele

button-theme-evacbutton-theme-women

Castell Gwrych, Abergele

Dyma un o enghreifftiau gorau Prydain o bensaernïaeth mewn arddull ganoloesol o ddechrau'r 19eg ganrif. Mae gwahanol rannau o'r castell yn seiliedig ar gestyll canoloesol penodol yng Ngogledd Cymru.

Portrait of Lady DundonaldYn flaenorol roedd tŷ o oes Elisabeth I yn sefyll ar y safle, yn eiddo i’r teulu Llwyd o Gwrych. Cafodd Lloyd Bamford-Hesketh y syniad am gastell newydd fel cofeb i'w hynafiaid. Digwyddodd yr adeiladu rhwng 1812 a 1822. Estynnwyd y castell gan genedlaethau diweddarach o'r teulu, gan gynnwys yr Arglwydd a'r Arglwyddes Dundonald ar ddechrau'r 20fed ganrif.

Medrai’r Fonesig Dundonald (yn y llun yma ym 1902) siarad Cymraeg ac roedd yn noddi’r celfyddydau. Sefydlodd gystadleuaeth delyn ac ymaelododd â Gorsedd y Beirdd. Hyrwyddodd hefyd ferched a oedd yn grefftwyr ac artistiaid, ym Mhrydain a thramor. Sefydlodd ddau ysbyty milwrol yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Diolchodd y Brenin Siôr VI iddi am “edrych ar ôl fy milwyr” pan ymwelodd ag un o’r ysbytai, ger gorsaf London Victoria, ym 1916. Mae ffotograff o’r cyfnod yn dangos ei nyrsys Maori o Seland Newydd.

Yn yr Ail Ryfel Byd, roedd y castell yn gartref i 180 o fechgyn a merched a symudwyd o wledydd yn Ewrop a feddiannwyd gan y Natsïaid trwy ymgyrch y “Kindertransport”, a symudodd ffoaduriaid Iddewig ifanc i ddiogelwch ym Mhrydain ym 1938 a 1939. Y nod oedd dychwelyd y pobl ifanc i'w rhieni pan oedd “argyfwng” y Natsïaid drosodd, ond erbyn Awst 1940 roedd plant Gwrych yn cael eu paratoi ar gyfer ymfudo i Balesteina yn y pen draw. Roeddent o dan ofal James Burke, 31, a oedd wedi gweithio o'r blaen yn y Swistir ac Awstria i'r Gwasanaeth Gwirfoddol Rhyngwladol dros Heddwch a Chymdeithas y Cyfeillion (Crynwyr). Daeth meddyginiaeth y plant o’r ‘Medical Hall’.

Mae'r awyrlun, trwy garedigrwydd y Comisiwn Brenhinol ar Henebion a Hynafol Cymru, yn dangos y castell ym 1932. Daw o Gasgliad Aerofilms Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru. 

Aerial photo of Gwrych Castle in 1932
Gwrych Castle ym 1932, trwy garedigrwydd CBHC a'i wefan Coflein

Gwerthodd y teulu Dundonald Gastell Gwrych ym 1946, gan ddod â bron i 1,000 o flynyddoedd o berchnogaeth y teulu ar y safle i ben. Yn y degawdau ar ôl y rhyfel, heidiodd twristiaid i'r castell ar gyfer digwyddiaday, megis gwleddoedd a marchnadoedd, ac i fynd ar reilffordd fach.

O dan berchnogion olynol o 1990 ymlaen, dadfeiliodd y castell a chollodd ei ffitiadau. Roedd y sefyllfa mor ddychrynllyd i Mark Baker, bachgen ysgol lleol, nes iddo sefydlu Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Gwrych ym 1997, pan oedd ond yn 12 mlwydd oed. Fe wnaeth ei benderfyniad cadarn ddwyn ffrwyth yn 2018, pan brynodd yr ymddiriedolaeth y castell (gyda chymorth y Gronfa Goffa Treftadaeth Genedlaethol a Ymddiriedolaeth Elusennol Richard Broyd). Mae'r ymddiriedolaeth yn adfer rhannau o'r castell a'r gerddi. Dilynwch y ddolen isod i gael manylion am amseroedd ymweld.

Yn Nhachwedd 2020 darlledwyd y sioe ITV I’m a Celebrity … Get Me Out of Here! o’r castell gan fod pandemig Covid-19 yn rhwystro ffilmio’r sioe yn y lleoliad arferol yn Awstralia.

Cod post: LL22 8ET    Map

Gwrych Castle website

Mae copïau o’r llun o'r awyr a delweddau eraill ar gael gan CBHC. Cyswllt: nmr.wales@rcahmw.gov.uk