Tŷ injan Hafod Owen, Gilfach Ddu, Llanberis

Tŷ injan Hafod Owen, Gilfach Ddu, Llanberis

Yr adeilad rhwng y maes parcio a'r llyn yw'r tŷ injan o'r rhan o chwarel lechi Dinorwig a adnabyddir fel Hafod Owen. Cafodd ei ddymchwel yn y 1970au a'i ail-adeiladu yma er diben cadwraethol.

Roedd Hafod Owen ger glannau Llyn Peris ar ben pellaf de-ddwyreiniol y chwarel. Cafodd ei enwi ar ôl yr hen fferm ar y tir. Tyllodd chwarelwyr bwll mawr wrth iddynt ddilyn gwythiennau'r llechi i lawr. Ym 1894, adeiladwyd inclên serth iawn o'r gwaelod i bonc o fewn y pwll. Roedd y tŷ injan wedi'i leoli ar y bonc.

Roedd mwyafrif yr inclêns yn Ninorwig yn defnyddio grym disgyrchiant - roedd pwysau'r tryciau llawn yn mynd i lawr yr inclên yn tynnu'r tryciau gwag yn ôl i fyny, a dim ond braciwr oedd ei angen i reoli'r disgyniad. Fodd bynnag, gan fod pwll Hafod Owen islaw, roedd angen offer pŵeredig i lusgo'r wagenni llwythog i fyny o'r pwll. Roedd wagenni gwag yn cael eu gollwng ar y trac cyfochrog ar yr un pryd, oedd yn darparu gwrthbwysau.

Photo of winding machinery in Hafod Owen engine house

Roedd y ceblau llusgo yn ymddangos drwy'r tyllau ar dalcen y tŷ injan ac yn mynd dros y pwlïau mawr allwch eu gweld ar y strwythur ar wahân gerllaw. Mae rheiliau uchaf yr inclên yn weladwy o dan y pwlïau, sy'n dangos ongl serth y disgyniad.

Inclên bwrdd oedd yr inclên, yn debyg i'r (ond yn fwy serth na'r) inclên V2 adferedig nid nepell i'r gogledd-ddwyrain o fan hyn. Roedd cerbyd gan bob trac oedd yn darparu "bwrdd" gwastad lle'r oedd wagenni llechi yn cael eu cludo. Roedd rhaffordd awyr hefyd yn codi llechi o'r pwll.

Ar ôl i chwarela ddod i ben yn Hafod Owen, daeth gwaelod y pwll yn llyn dwfn. Roedd cynlluniau ar gyfer yr orsaf bŵer danddaearol o dan chwarel Dinorwig yn cynnwys dadlwytho deunydd cloddiedig yn y pwll. Byddai hynny wedi claddu'r tŷ injan ond trefnodd Amgueddfa Genedlaethol Cymru a'r Bwrdd Canolog Cynhyrchu Trydan i gwmni peirianneg lleol, Hills & Bailey, ei ddymchwel ym 1974.

Rhifwyd pob carreg gan y cwmni - mae rhai o'r rhifau paentiedig yn dal yn weladwy. Gwnaeth frasluniau a thynnu lluniau. Roedd rhaid tynnu popeth drwy dwnnel isel, sydd o bosib yn esbonio pam nad oedd prynwyr hen heyrn wedi tynnu'r peirianwaith. Gyda chymorth saer maen, ail-adeiladwyd yr adeilad gan y cwmni ym 1975.

Mae ambell beirianwaith sydd ar ôl y tu mewn i'r adeilad o hyd ac yn cynnwys cywasgwr mawr a leolir yn yr adran estynedig a ddarparodd aer cywasgedig i weithredu driliau cerrig a theclynnau chwarela eraill. Yn ogystal, mae ychydig o'r mecanwaith weindio yn dal ym mhrif adran yr adeilad.

Gyda diolch i Mike Bailey, Paul Sivyer a Dr Dafydd Gwyn

Cyllidwyd y cyfieithiad hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a'r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA) a Chyngor Gwynedd.

Cod post: LL55 4TY    Map