Er coffadwriaeth am Jennie Williams
Roedd Jennie Williams yn un o 10 o blant a anwyd i John ac Ellen Williams o Blas Coch, yn Stryd Fawr Llanberis. Cafodd ei geni yn 1874. Roedd hi'n Fethodist pybyr, yn mynychu Capel Coch.

© IWM (WWC H2-170)
Yn ferch ifanc mynychodd ddosbarthiadau y Groes Goch a redir gan y Doctor Robert Mills-Roberts. Ef oedd y llawfeddyg yn ysbyty'r chwarel (sy'n dal i fod yn dirnod amlwg ar ochr arall y llyn o'r pentref). Roedd Mills-Roberts wedi bod yn gôl-geidwad i Gymru ac roedd yn rhan o dîm buddugol Preston North End yng Nghwpan FA Lloegr yn 1889.
Talodd ei blynyddoedd o fynychu'r dosbarthiadau ar ei ganfed yn y Rhyfel Byd Cyntaf, lle bu'n nyrs gyda'r Voluntary Aid Detachment. Yn 1915 gofalodd am filwyr clwyfedig yn Brighton a Birmingham. Aeth i Ffrainc yn 1916.
Dychwelodd i ymweld â'i theulu yn Llanberis ym mis Mawrth 1917, ac erbyn hynny roedd hi wedi dioddef salwch difrifol. Dychwelodd i Ffrainc a bu'n dal mewn ysbyty milwrol yn Le Havre ddeufis ar ôl i'r rhyfel ddod i ben.
Daliodd y ffliw, fel llawer o rai eraill yn Ewrop y gaeaf hwnnw. Arweiniodd hyn at niwmonia, lle bu farw ar 31 Ionawr 1919 yn yr ysbyty lle'r oedd wedi gweithio. Roedd hi'n 45 oed. Claddwyd hi ym Mynwent Ste. Marie yn Le Havre.
Dychwelyd i dudalen Cofeb Rhyfel Llanberis
Dychwelyd i dudalen Hanes Merched yng Nghymru