Safle cymuned Oes yr Haearn, Garn Boduan
Mae gweddillion o leiaf 170 o dai cyn-hanesyddol wedi eu darganfod ar Garn Boduan sydd yn profi fod cymuned go helaeth yn byw yma ar un adeg. Yn ôl pob sôn mae’r Garn hefyd yn gysylltiedig â’r tywysog arwrol canoloesol Llywarch Hen (gweler isod).
Saif Garn Boduan, a ffurfiwyd o graig igneaidd galed, tua 279 medr uwchlaw lefel y môr ac mae’n ffurf amlwg ar y tirlun. Oherwydd y llechweddau ar bob ochr roedd yn safle gweddol hawdd ei hamddiffyn ac roedd dŵr croyw ar gael o ffynhonnau.
Mae waliau y gaer, sy’n dyddio i Oes yr Haearn, yn dal i sefyll mewn mannau. Yn fwyaf tebyg adeiladwyd y waliau allanol dros wahanol gyfnodau. Dros y blynyddoedd mae arteffactau wedi eu darganfod yma – yn cynnwys pen bwyell o garreg, cerrig taflu (fel arfau) ac addurniadau gwydr o’r cyfnod Rhufeinig.
Mae sylfeini dros 150 o dai crynion oddi mewn y waliau. O’r awyr mae rhai o’r gweddillion hyn yn edrych yn debyg i falwod mawr. Hefyd mae gweddillion rhai o dai crynion eraill i’r de ac i’r dwyrain o’r copa.
Yn ogystal â’r brif gaer, mae gweddillion caer fechan ar yr ochr ddwyreiniol, credir fod hon yn dyddio yn ôl i amser yn dilyn cyfnod y Rhufeiniad ym Mhrydain. Trwy garedigrwydd Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd y dangosir llun awyr a chynllun o’r gaer yma.
Y gred yw fod Boduan yn golygu cartref Buan. Yn ôl y sôn Llywarch Hen oedd taid Buan, roedd ef yn byw yn y 6ed ganrif; yn y 9fed ganrif ysgrifennwyd hanesion am ei orchestion arwrol.
Erbyn yr 20fed ganrif roedd y Garn wedi ei gorchuddio gan goed trwchus. Bu tân mawr yn y 1970au/1980au cynnar a chollwyd llawer o’r coed ond daeth mwy o’r olion cyn-hanesyddol i’r golwg a chafodd planhigion eraill gyfle i ffynnu.
Gyda diolch i Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd am yr wybodaeth a’r delweddau, ac i AHNE (Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol) Llŷn am y cyfieithiad