Mynydd Cilfái, Abertawe

button-theme-slavesMynydd Cilfái, Abertawe

O'r pen bryn hwn fe gwech olygfa godidog dros y ddinas a'r dociau. Os ydych newydd sganio'r codau QR, ychydig i'r dwyrain mae sedd a adeiladwyd gan Grynwyr, a thu hwnt iddi sylfaen crwn melin wynt a godwyd yn yr 17eg ganrif ar gyfer malu grawn.

Photo of Maesteg House, on Kilvey HillAr lethr y de-orllewin safai Maesteg House, a welir yn y llun yn y 1920au (gyda Mynydd Cilfái yn y cefndir) trwy garedigrwydd Gwasanaeth Archifau West Morgannwg. Adeiladwyd Maesteg House gan y perchennog caethweision Pascoe St Leger Grenfell (1798-1879). Roedd ei dad wedi sefydlu cwmni copr yn Abertawe, sef Pascoe Grenfell & Sons, yn yr 1820au. Ar ôl i Brydain ddileu caethwasiaeth ym 1833, fe’i gorfodwyd i ryddhau 216 o gaethweision ar ystâd St James yn Jamaica. Rohddodd y llywodraeth iawndal o £4,122 iddo, tua £500,000 yn arian heddiw. Ni dderbyniodd y caethweision unrhyw arian.

Ar ôl gweithio ym maes bancio yn Llundain, ymgartrefodd yn Abertawe c.1840 a datblygu gwaith copr y cwmni. Adeiladodd dai enghreifftiol ar gyfer gweithwyr ac Eglwys yr Holl Saint, Cilfái (caewyd yn 2015). Chwaraeodd ran hefyd yn nhwf cyflym dociau Abertawe. Gwelir ei bortread yma trwy garedigrwydd Cyngor Abertawe: Casgliad Amgueddfa Abertawe.

swansea_pascoe_st_leger_grenfellCafodd un o'i feibion, a ddaeth yn gadlywydd (Field Marshall Grenfell of Kilvey), yrfa filwrol nodedig cyn dod yn llywydd y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol (RHS). Roedd ei nith Katherine yn byw yn Maesteg House ac yn rhedeg ysgol yno, cyn i'r plasty letya ffoaduriaid o Wlad Belg yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Cafodd Maesteg House ei ddymchwel yn ddiweddarach i greu lle am gartrefi newydd.

Niweidiodd gweithgaredd diwydiannol fflora a ffawna Mynydd Cilfái. Yn yr 1870au adeiladwyd ffliw i fyny ochr y bryn i gludo nwyon ymhell o ffatri mwyndoddi plwm ac arian yn Hafod. Ym 1886 nododd y papur newydd The Cambrian fod y llygredd diwydiannol wedi lladd deiliach y bryn, gan adael “un màs mawr o bridd brown meddal, rhydd”. Roedd yn beio absenoldeb planhigion a gwreiddiau am y dilyw o fwd a chreigiau, rhai yn pwyso tua hanner tunnell, a lithrodd i lawr ochr y bryn yn ystod storm ym mis Medi 1886. Anafwyd rhai o drigolion y tai teras yn Foxhole (ar lethr dwyreiniol y bryn) ac roedd llawer o deuluoedd yn ddigartref dros dro.

Gyda diolch i Wasanaeth Archif Gorllewin Morgannwg a Chasgliad Amgueddfa Abertawe. Ymhlith y ffynonellau mae'r Ganolfan Astudio Cymynroddion Perchnogaeth Caethweision Prydeinig

Map