Tapestri y Goresgyniad Olaf, Sgwâr y Farchnad, Abergwaun
Y tro diwethaf i unrhyw un feddiannu Prydain Fawr oedd ym 1797, pan laniodd milwyr Ffrengig yn Llanwnda, rhyw 5km i'r gorllewin o Abergwaun. Adroddir yr hanes mewn tapestri 30 metr o hyd, a wnaed gan fenywod lleol yn 1997.
Gall y cyhoedd weld y tapestri mewn oriel bwrpasol sy’n rhan o lyfrgell Abergwaun a neuadd y dref. Mae'r tapin yn copïo siâp a ffurf tapin Bayeux, a gofnododd goresgyniad Normanaidd Lloegr yn 1066. Cymerodd 80 o fenywod lleol bedair mlynedd i greu tapestri Abergwaun. Mae’r gwaith yn cynnwys gwlân cribog mewn 178 o liwiau. au.
Cynlluniwyd y tapestri gan Elizabeth Cramp, artist o Sussex a symudodd i Sir Benfro tua 1960. Bu hi farw yn 2010.
Mae un elfen o stori'r goresgyniad yn ymwneud â gweithredoedd gwragedd lleol, a oedd wedi'u gwisgo mewn dillad coch traddodiadol. Yn ôl y sôn, roedd y Ffrancwyr, yn gwylio o bell, yn eu camgymryd am filwyr.
Arestiodd Jemima Nicholas, gwraig i grydd, 12 o filwyr Ffrainc er mai fforch wair oedd ei hunig arf. Mae hi'n parhau i fod yn arwres werin, ac ym mis Chwefror 2024 dadorchuddiwyd plac porffor ar neuadd y dref i’w chofio. Mae gan Felin Tregwynt, ger Abergwaun, ffabrig poblogaidd o’r enw Jemima er anrhydedd iddi, ac mae Cwmni Bragu Morgannwg yn cynhyrchu cwrw euraidd o’r enw Jemima’s Pitchfork.
Dywedir bod dogfen ildio’r Ffrancwyr wedi'i llofnodi yn y Royal Oak, ar draws y ffordd o neuadd arddangos y tapestri.
Côd post: SA65 9HA Map
Mwy am y tapestri – gwefan Gwasanaethau Diwylliannol Sir Benfro
Gwefan Placiau Porffor – dathlu menywod nodedig yng Nghymru