Adfeilion Castell Lacharn

 

Engraving of Laugharne Castle and harbour

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn dilyn godre’r castell. Mor diweddar â’r ddeunawfed ganrif llifai’r môr hyd at wal y castell – fel y mae’r hen engrafiad yn dangos.

Codwyd amddiffynfeydd gan y Normaniaid ger aberau afonydd – afon Taf yn yr achos hwn – er mwyn rheoli masnachu ar hyd yr afon a’r môr ac i alluogi nwyddau, a milwyr weithiau petai eu hangen, i gyrraedd y castell ar adeg o warchae trwy’r cilddor. Dyddiadd y cyfeiriad cynharaf at gastell Lacharn yw 1116.

Byddai’r rheini a oedd yn gefnogol i’r Normaniaid yn cael eu hannog i ymsefydlu’n lleol er mwyn iddyn nhw gynorthwyo i amddiffyn y castell pe bai galw. Yn sgil hyn tyfodd tref Lacharn o gwmpas y fynedfa i’r castell. Fodd bynnag, roedd ymosodiadau gan y Cymry yn aml yn llwyddiannus. Yn dilyn ymosodiad gan yr Arglwydd Rhys yn 1189 mae’n debyg i amddiffynfeydd y castell gael eu chwalu’n llwyr.

Yn 1215 cafwyd cyrch llwyddiannus gan Llywelyn ab Iorwerth (Llywelyn Fawr) ac un tebyg gan Llywelyn ap Gruffudd yn 1257 pan lwyddwyd i gipio’r arglwydd lleol Guy de Brian. Yn dilyn yr ymosodiadau hyn trefnwyd cynllun adeiladu cyson er mwyn codi amddiffynfeydd cadarnach o garreg.

A’r castell wedi ei esgeuluso am ganrif a rhagor daeth yn eiddo i Syr John Perrot. Caiff ef ei goffáu yn yr enw a roddwyd ar y bryn gyferbyn. Trodd Perrot y castell yn blasdy Tuduraidd gan osod ffenestri gwydr mewn bylchau sgwar. Yn dilyn ei farwolaeth yn Nhŵr Llundain yn 1592 bu tenantiaid gwahanol yn rhentu’r castell. Yn eu plith roedd Rhys ap Prydderch; cafodd ef ei gyhuddo o ysbeilio plwm o’r castell, ac efallai ffenestri, pren a haearn yn ogystal. Ei fwriad, hwyrach, oedd eu defnyddio yn Island House lle ceir capan drws Tuduraidd a allai fod wedi dod o’r castell.

Picture of Laugharne Castle by JMW Turner

Yn 1644 bu’r castell - cadarnle i’r Brenhinwyr - dan warchae am wythnos gron cyn gorfod ildio. Dim ond yn rhannol yr adferwyd y niwed a ddigwyddodd i’r castell gan y gwarchae a’r ysbeilio bwriadol. Yn y ddeunawfed ganrif daeth tir y castell yn rhan o ardd Castle House. Crewyd y darlun dramatig o’r adfeilion gan JMV Turner c. 1830. Fe’i dangosir yma trwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Bu datblygu pellach yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a daeth y gazebo yn barlwr sgrifennu i Richard Hughes (y nofelydd, y bardd a’r dramodydd) ac am gyfnod i Dylan Thomas.

Yn 1973 rhoddodd Ann Starke, y perchennog, y castell yng ngofal y wladwriaeth. CADW sydd yn ei warchod ar hyn o bryd.

Diolch i Peter Stopp o Hanes Cymunedol Talacharn ac i Lyfrgell Genedlaethol Cymru am y darlun gan Turner. Cyfieithiad gan yr Athro Dai Thorne

Cod post: SA33 4TS    Map

Gwefan Cadw  - gywbodaeth i ymwelwyr

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button