Gorsaf reilffordd Llanfairpwll

sign-out

Gorsaf reilffordd Llanfairpwll

Mae’r arwyddion yn yr orsaf hon yn dangos yr enw lle hiraf yn Ewrop:
Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch 

llanfairpwll_railway_station

Sut y daeth enw mor rhyfedd i fodolaeth? Mae’r stori’n mynd yn ôl i agoriad gorsaf reilffordd Llanfair Pwllgwyngyll ym mis Awst 1848, fel terfynfa dros dro y rheilffordd newydd o Gaergybi. Deuai teithwyr yma ar y fferi ar draws y Fenai, yna parhau â'u teithiau trên o orsaf Bangor. Ffynnodd y pentref o'i statws fel terfynfa reilffordd ac o’r gwaith o adeiladu Pont Britannia gerllaw.

Agorodd y bont ym mis Mai 1850, ac wedyn ni fyddai trenau pellter hir yn sefyll yn Llanfair Pwllgwyngyll. Daeth yr orsaf yn ferddwr dros nos. Galwyd pwyllgor lleol i feddwl am ffyrdd o annog teithwyr i ddisgyn yn y pentref, a dyfeisiwyd y syniad o ymestyn enw pum sillaf y pentref i greu enw lle hiraf Ewrop. Cefnogodd y cwmni rheilffordd y ddyfais, trwy arddangos yr enw newydd ar yr orsaf.

llanfairpwll_station_with_steam_train

Caeodd yr orsaf yn 1966 ond fe ailagorodd i deithwyr yn 1973. Heddiw mae trenau'n galw yn Llanfairpwll drwy'r dydd, yn rhedeg i Gaer ac ymlaen i Birmingham neu Gaerdydd.

Cod post: LL61 5UJ    Map

 

National Cycle Network Label Navigation previous buttonNavigation next button
Telfords Irish Road Tour label Navigation go East buttonNavigation go West button