Dyfrbont camlas Llangynidr

PWMP logoDyfrbont camlas Llangynidr

Ger pont y Coach & Horses (wedi’i henwi ar ôl y dafarn gerllaw), mae Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog yn troi’n sydyn i groesi afon Crawnon ar ddyfrbont gerrig. Gallwch weld ochr y bont o’r ffordd gyfochrog.

Byddai afon Crawnon yn bwydo’r gamlas ar ôl i’r darn cyntaf o’r Gilwern i Langynidr agor ym 1797 (ychwanegwyd y darnau uchaf tua Aberhonddu rhwng 1799 a 1801). Mae’r ffos gyflenwi’n dal i gael ei defnyddio. Gallwch gerdded ar ei hyd at y gored sy’n arallgyfeirio dŵr o’r nant – defnyddiwch y llifddorau y tu hwnt i’r ddyfrbont i groesi’r gamlas o’r llwybr tynnu.

llangynidr_frederick_powell_jonesYr isaf mewn cyfres o bum loc yn Llangynidr yw’r lociau boptu i Bont y Coach & Horses. Mae’r darn rhwng y ddau loc isaf wedi bod yn  broblem i beirianwyr. Cafodd y gamlas ei leinio â choncrid ym 1994 ond yn 2001 bu’n rhaid adnewyddu’r leinin ar ôl i ddŵr daear yn y gaeaf wthio gwely’r gamlas i fyny. Digwyddodd yr un peth y gaeaf canlynol ac adnewyddwyd y leinin eto.

Ymhellach i’r dwyrain, mae Forge Road (y briffordd drwy’r pentref) yn croesi’r gamlas ar Bont yr Iard. I’r dwyrain o’r bont safai glanfa ac odynau calch.

llangynidr_percival_powell_jonesMae’r bont wedi’i henwi ar ôl iard goed a melinau llifio Jones a safai gerllaw. Ar ddechrau’r 20fed ganrif roedd y busnes yn cael ei redeg gan Morgan Jones a gollodd ddau fab yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Saethwyd Fred Powell-Jones (llun ar y dde), negesydd beic modur, gan warchodwr Prydeinig ar ôl peidio â chlywed ei orchymyn iddo stopio. Bu farw ei frawd Percy (chwith), Capten gyda Chyffinwyr De Cymru, yn Irac ym 1916. Bu farw Reg Williams, clerc yn yr iard goed, wrth wasanaethu yn Yemen ym 1915.

Trefnai’r cwmni wibdaith bob haf i’w weithwyr, fel arfer mewn siarabáng. Yng nghanol y cyfyngiadau yn ystod y rhyfel, taith mewn cwch camlas i Aberhonddu oedd y wibdaith ym 1917. Doedd y rhan fwyaf o’r 40 i 50 o weithwyr erioed wedi mynd drwy lociau Llangynidr na thwnnel Ashford ymhellach i fyny’r gamlas.

Yr elusen Glandŵr Cymru, Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd Cymru, sy’n gofalu am y darn llywiadwy o Gamlas Sir Fynwy a Brycheiniog.

Gyda diolch i archif Ymddiriedolaeth Camlas Sir Fynwy, Aberhondda a'r Fenni, ac i Ganolfan Archif Ardal Crughywel

Cod post: NP8 1LS    Map

Glamorganshire canal tour button link Navigation up stream buttonNavigation downstream button