Bywyd gwyllt Llyn Padarn
Bywyd gwyllt Llyn Padarn
Mae'r llecyn tawel hwn ar lwybr beicio a cherdded Lôn Las Peris yn un delfrydol i werthfawrogi hanes naturiol yr ardal. Ar un ochr ceir y llyn mawr, dwfn - Llyn Padarn. Ar yr ochr arall ceir Llyn Tan-y-Pant, lle cronnodd dŵr wrth greu arglawdd y rheilffordd (Lôn Las Peris bellach) yn y 1860au. Mae'r dyfroedd cysgodol, bas yn wahanol iawn i ehangder agored Llyn Padarn, ac mae'n well gan rai rhywogaethau o flodau ac anifeiliaid y fan hon, gan gynnwys yr elyrch sy'n nythu yma (llun isod gan Ken Latham).
Mae Llyn Padarn yn ei gyfanrwydd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae pysgodyn prin a elwir y Torgoch, neu dorgoch yr Arctig, yn trigo'n naturiol yn y llyn hwn a dau lyn arall yn Eryri (Bodlyn a Cwellyn). Mae pobl wedi'i drosglwyddo i lynnoedd eraill yn Eryri rhag ofn y byddai poblogaeth un llyn yn dirywio'n ddirfawr.
Yn ôl chwedloniaeth leol, a gofnodwyd ym 1662, y Cristnogion cynnar a ddaeth â'r Torgoch yma o Rufain. Yr eglurhad gwyddonol yw mai pysgodyn mudol oedd hwn ar un adeg (yn byw yn y môr ac yn dod i'r afonydd i ddodwy) ond fe'i hynyswyd yma gan yr Oes Iâ ddiweddaraf. Ers hynny mae poblogaeth Torgoch Llyn Padarn wedi esblygu ac mae'n unigryw yn enynnol - yn wahanol i Dorgoch Bodlyn a Chwellyn.
Yn haf 2009, roedd poblogaeth y Torgochiaid dan fygythiad gan dyfiant algae yn Llyn Padarn am fod y dŵr yn gynnes a gormod o ffosffadau ynddo. Daw ffosffadau i'r cwrs dŵr o lanedyddion a gwrtaith. Mae algae sy'n ffynnu ar ffosffadau yn darwagio ocsigen o'r dŵr y mae'r pysgod yn dibynnu arno. Sefydlwyd mesurau i atal hyn rhag digwydd eto yn Llyn Padarn.
Dengys y llun uchaf, trwy garedigrwydd Walter Hanks, pâr o dorgoch hynod o fawr (c.30cm o hyd) a ddaliwyd dros dro pan oedd ffosffadau yn codi lefel y maeth yn y llyn (tua 20cm i 23cm yw’r hyd arferol). Mae’r gwryw yn dangos y lliw coch mae’n datblygu yn hwyr yn yr hydref at yr amser paru ym mis Rhagfyr, pan fydd y pysgod yn dodwy yn Afon y Bala (rhwng Llyn Padarn a Llyn Peris).
Mae pysgod Llyn Padarn yn fwyd i fywyd gwyllt arall gan gynnwys dyfrgwn, y'u gwelir ar eu gorau ger adwy'r llyn ym Mrynrefail.
Brodor arall y dyfroedd hyn yw llyriad-y-dŵr arnofiol (Luronium natans), planhigyn prin sy'n gynhenid i Eryri a chanolbarth Cymru. Ymledodd i Loegr ar hyd rhai camlesi. Mae'n anodd ei wahaniaethu oddi wrth lystyfiant eraill ac eithrio yn yr haf, pan welir blodyn bach gwyn gyda thri phetal gwyn a chanol melyn yn arnofio uwchlaw'r dail ar wyneb y dŵr.
Gyda diolch i Robin Parry, Walter Hanks a Ken Latham