Llys Elen Egryn, Tywyn
Enwir y bloc hwn o fflatiau preswyl ar ôl y bardd Elen Egryn, y ferch gyntaf i gyhoeddi llyfr o'i gwaith yn Gymraeg.
Cafodd ei geni Elen (neu Elinor) Evans yn 1807 yn Llanegryn, i'r gogledd o Tywyn. Roedd hi'n byw ym Machynlleth erbyn 1850, pan ddaeth i amlygrwydd fel awdur y llyfr barddoniaeth Telyn Egryn. Canmolodd beirniaid ei gafael ar reolau caeth barddoniaeth Gymraeg. Dywedodd rhai na allai neb ysgrifennu barddoniaeth melysach.
Yn 1866 cyferbynodd colofnydd yn y papur Y Gwladgarwr dlodi awduron benywaidd yng Nghymru â'r nifer yn Lloegr ac America, gan awgrymu nad prinder talent deallusol oedd hyn ond esgeulustod addysg merched a meithrin eu galluoedd. Cyfeiriodd at Elen Egryn fel enghraifft o'r hyn y gallai awduron benywaidd ei gyflawni.
Treuliodd Elen flwyddyn olaf ei bywyd yn byw gyda'i brawd a'i chwaer-yng-nghyfraith yn Chester House yng Nghaerllion, ger Casnewydd. Bu farw yno yn 1876 a chladdwyd hi yn y fynwent leol.
Yn 1998 ailgyhoeddwyd Telyn Egryn gan Honno, gwasg y merched Cymreig.
Diolch i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad
Cod post: LL360AL Gweld Map Lleoliad