Cymraeg Lost in Time fairy tale

Fairy Trail Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button

Stori 2 - Ar goll mewn amser

Image of Fairy

Un noson olau lleuad ym Mhentrefoelas, roedd un o feibion y ffermwr a drigai yn Llwyn Onn yn mynd i weld ei gariad yng Nghlogwyn-y-Gwyn. Wrth iddo groesi cae ger tŷ ei gariad, gwelodd ychydig o dylwyth teg oedd fel pe baent yn mwynhau parti ger ymyl llyn. Wrth eu gwylio, fe’i hudwyd gan eu cerddoriaeth, eu canu a’u dawnsio hyfryd. Ymhen ychydig, ymunodd â’r hwyl!

Roedd mab y ffermwr yn credu ei fod mewn breuddwyd.  Canfu ei fod mewn gwlad wahanol - prydferthach na dim a welodd erioed - ble'r roedd pawb fel pe baent yn treulio'u hamser yn dawnsio, yn canu ac yn mwynhau partïon!

Pan oedd yn credu ei bod ar fin gwawrio, cofiodd am ei deulu a’i gariad a sylweddolodd nad oeddent yn gwybod ble’r oedd. Gofynnodd i’r tylwyth teg a allai ddychwelyd adref. Caniatawyd ei ddymuniad, a darganfu ei fod yn sefyll ger y llyn yn ymyl Llwyn Onn.

Wrth iddo gerdded i fyny’r llwybr tuag at y fferm, sylweddolodd fod popeth wedi newid. Roedd y coed wedi tyfu, roedd adeilad y fferm yn wahanol, ac nid oedd dim fel yr oedd pan adawodd yn gynharach y diwrnod hwnnw. 

Pan gyrhaeddodd ddrws y fferm, fe’i synnwyd nad oedd ei frodyr yn ei adnabod yn y lle cyntaf.  Dywedasant wrtho ei fod wedi bod i ffwrdd am saith mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd ei rieni wedi marw a’i gariad wedi priodi dyn arall. 

Roedd yr hyn a ymddangosai fel un noson mewn parti wedi bod yn saith mlynedd hir mewn gwirionedd.  Ni lwyddodd y dyn ifanc i ddygymod â cholli ei deulu a’r ferch yr oedd yn ei charu gymaint. Ymhen llai nag wythnos ar ôl dychwelyd adref, bu farw'n dorcalonnus.