Cymraeg The Fairy Gift fairy tale
Stori 3 - Anrheg y Tylwyth Teg

Roedd gwehydd o’r enw Dafydd yn byw mewn tŷ o’r enw Llurig, ger Pentrefoelas. Gwehyddai frethyn i weithwyr cyffredin Pentrefoelas, ond anaml iawn y gallent fforddio prynu’r brethyn. Ymlafniai Dafydd i wneud digon o arian i fwyta a thalu ei rent.
Un diwrnod, roedd yn cerdded dros fryn ar ei ffordd i’r Bala i brynu edafedd. Ymddangosodd dwy dylwythen deg brydferth. Roedd eu gwallt hir yn llifo i lawr eu cefn, ac roedd eu croen fe pe bai’n disgleirio yn yr heulwen. Gofynnodd y tylwyth teg i Dafydd eu dilyn, a dywedasant y buasent yn dangos cist yn llawr aur iddo y gallai ei gael iddo’i hun.
Fel gallwch ddychmygu, nid oedd rhaid gofyn ddwywaith i Dafydd. Dilynodd y tylwyth teg hyfryd am filltiroedd ar draws y mynydd llwm, noeth, nes iddynt gyrraedd llecyn bychan coediog. Roedd y gist yno! Agorodd y tylwyth teg y gist ac roedd yr aur wedi'i bentyrru ynddi - mwy o aur nag a welodd erioed yn ei fywyd!
Roedd Dafydd mor hapus, neidiodd mewn llawenydd. O dan gyfraith y tylwyth teg, roedd rhaid iddo hawlio’r gist fel ei eiddo ei hun yn syth, neu fel arall, buasai’n diflannu. I dangos fod y gist yn eiddo iddo, gwthiodd ei ffon gerdded i ganol yr aur ac fe'i gadawodd yn sefyll yn unionsyth.
Cyn iddo ruthro adref â’r newyddion da, rhybuddiwyd Dafydd gan y tylwyth teg na ddylai ddweud wrth neb ac eithrio ei wraig am yr anrheg. Addawodd hynny’n ffyddlon iddynt, a rhuthrodd yn ôl i'r pentref.
Roedd ei wraig wrth ei bodd, ac fe wnaeth addo peidio dweud wrth yr un enaid byw! Ymhen ychydig, aeth Dafydd i fesur dyn a ddymunai brynu siwt. Pan adawodd Dafydd y tŷ, rhuthrodd ei wraig i weld ei ffrind, gwraig y melinydd drws nesaf, a broliodd am yr holl bethau bendigedig roedd hi'n mynd i'w prynu. Pan ddychwelodd Dafydd, ni ddywedodd wrtho ei bod wedi datgelu’r gyfrinach y gofynnodd iddi ei chadw.
Y bore canlynol, cerddodd Dafydd a'i wraig i fyny'r bryn at y pentwr o goed. Roedd y gist wedi diflannu. Roedd hyd yn oed ffon Dafydd wedi mynd! Roedd y ddau ohonynt yn ddigalon, ac roedd Dafydd yn ddryslyd.
Ymhen wythnos, sylweddolodd y cwpwl fod eu cymdogion yn prynu dillad newydd ac yn harddu eu cartref. Cawsant wybod bod y melinydd a'r wraig wedi sleifio i fyny'r bryn ac wedi hawlio'r gist fel eu heiddo hwy, oherwydd roeddent yn gwybod fod gwraig Dafydd wedi torri rheol y tylwyth teg.