Cymraeg A Fairy Marriage fairy tale

Fairy Trail Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button

Stori 4 - Priodas tylwyth teg

Image of Fairy

Roedd dyn ifanc a drigai yn Hafod-y-Garreg ym Mhentrefoelas yn hel defaid ar y bryniau pan welodd ddynes ifanc hyfryd yn eistedd dan gysgod nifer o goed. Roedd y ddynes ifanc yn wylo’n hidl.

Siaradodd y dyn ifanc yn garedig â hi ac eisteddodd wrth ei hochr i’w chysuro. Edrychodd hi arno. Wrth i’w llygaid gwrdd, fe wnaethant syrthio dros eu pen a’u clustiau mewn cariad yn syth. 

Roeddent wedi bod yn sgwrsio am oriau pan ymddangosodd ei thad yn ddirybudd o’u blaen a dywedodd wrth ei ferch am ei ddilyn yn ddi-oed.  Ufuddhaodd, a gadawyd y dyn ifanc ar ei ben ei hun.

Arhosodd yno trwy’r noson, yn ewyllysio ac yn gobeithio y gwnâi ei gariad ddychwelyd. Bob dydd, cerddai i'r fan ble gwnaethant gwrdd am y tro cyntaf, ac arhosai...ac arhosai. Âi adref bob tro yn glaf o gariad ac yn unig.

Ni wyddai fod y dylwythen deg yn ei garu ef cymaint ag oedd yn ei charu hi. Meddyliai amdano trwy’r adeg, a chynllwyniai i ddychwelyd i’r fangre cyn gynted ag y câi gefn ei thad. 

Un diwrnod, manteisiodd ar ei chyfle, a dychwelodd i’r fan ble cyfarfu ei chariad.  Roedd yn disgwyl amdani yno! Fe wnaethant sgwrsio, chwerthin, dawnsio a chanu - nes i’w thad ymddangos. Nid oedd yn falch, ond sylweddolai fod y ddau ohonynt mewn cariad. O'r diwedd, cytunodd y gallai ei ferch briodi'r bugail ifanc. Ond rhoddodd ei ganiatâd â rhybudd: ‘Fe all hi aros gyda thi nes gwnei di ei tharo â haearn.’

Gwyddai’r dyn ifanc na fuasai hyd yn oed yn ystyried ei bwrw â haearn, ac felly priodwyd y ddau. Roeddent yn byw yn ddedwydd gyda'i gilydd a chawsant ddau o blant.

Y noson cyn Gŵyl Sant Capel Garmon, aeth y dyn ifanc a’i wraig i ddal merlod i fynd â hwy i’r ffair. Roedd y merlod yn wyllt, ac fe wnaethant garlamu o amgylch y caeau am oriau â'r cwpwl yn eu herlid. Yn ei rwystredigaeth, taflodd y dyn ifanc ffrwyn at un o'r merlod. Tarodd y ffrwyn ei wraig yn ddamweiniol. Roedd yr enfa wedi'i gwneud o haearn, felly gwyddai’r ddau ohonynt yn syth fod cytundeb eu priodas wedi’i dorri o dan gyfraith y tylwyth teg!

Roedd y dyn ifanc mor ofidus, roedd ei galon yn glaf, a phrin cafodd gyfle i siarad â’i wraig cyn i’w thad ymddangos â chriw o dylwyth teg.  Gafaelodd yn llaw ei ferch ac fe wnaethant ddiflannu, ac ni welwyd hwy fyth wedyn.

Bod dydd, meddyliai’r dyn ifanc am ei wraig, y dylwythen deg brydferth, ac roedd yn ddiolchgar am ei blant a oedd yn atgofion hyfryd o'r bywyd a dreuliasant gyda'i gilydd.