Cymraeg The Lovely Cottage fairy tale
Stori 5 - Y bwthyn hyfryd

Roedd gwraig lân, daclus a gweithgar yn byw mewn bwthyn yn y pentref. Roedd cadw ei thŷ mewn trefn yn bwysig iawn iddi; roedd ganddi le i bopeth, a chadwai bopeth yn ei le.
Bob nos, cyn mynd i’r gwely, cliriai’r lludw o amgylch y lle tân a rhoddai lo ar y tân i’w gadw ynghyn trwy'r nos, a ysgubai’r llawr. Ei bwthyn hi oedd cartref harddaf Pentrefoelas!
Un noson, yn ystod eu taith gerdded nosweithiol, penderfynodd y tylwyth teg fynd i mewn i’w bwthyn. Dyma’r union fath o le roeddent yn ei hoffi; roeddent wrth eu bodd â’r tân cynnes, y llawr glân a'r aelwyd. Fe wnaethant aros yno trwy’r nos a mwynhau eu hunain yn y cartref cysurus, hyfryd.
Yn y bore, cyn iddynt adael, gadawai’r tylwyth teg swllt newydd gloyw ger aelwyd y ddynes. Bob nos, ymwelai’r tylwyth teg â bwthyn y ddynes, a ddarganfyddai swllt newydd gloyw bob bore!
Ymhen ychydig, roedd gan y ddynes gryn dipyn o arian. Prynodd ddillad a llenni newydd, a throdd ei bwthyn yn le hyfrytach na'r hyn oedd o'r blaen, hyd yn oed.
Sylweddolodd ei chymdogion a daethant yn eithaf eiddigeddus. Cychwynasant glebren amdani. Roedd un ohonynt yn benderfynol o gael gwybod sut llwyddodd y ddynes i allu fforddio’r holl bethau hyfryd hyn i’e chartref yn ddisymwth. Aeth un cymydog i dŷ’r ddynes, a gofynnodd yn ddigywilydd wrthi o ble’r câi’r holl arian!
Dywedodd y ddynes wrth ei chymydog ei bod yn canfod swllt newydd gloyw bob dydd ger ei haelwyd hyfryd, glân. Roedd ei chymydog wedi'i chythruddo, a rhuthrodd at ei ffrindiau i adrodd yr hanes wrthynt.
Y bore canlynol, deffrodd y ddynes oedd yn berchen ar y bwthyn taclus iawn yn ôl ei harfer, gan ddisgwyl canfod swllt. Ond nid oedd unrhyw arian yno! Digwyddodd yr un peth y diwrnod canlynol...a’r diwrnod wedi hynny.
Wir i chi, roedd y tylwyth teg yn flin ei bod wedi adrodd eu cyfrinach wrth ei chymydog straegar. Ni wnaethant ddychwelyd i’r bwthyn cartrefol fyth wedi hynny.