Cofeb i’r gêm rygbi gyntaf yng Nghymru, Llanbedr Pont Steffan

Cofeb i’r gêm rygbi gyntaf yng Nghymru, Llanbedr Pont Steffan

lampeter_rowland_williamsMae’r tywodfaen ar ffurf pêl hirgrwn ar gampws y brifysgol yn coffáu’r gŵr a symbylodd y gêm rygbi gyntaf i’w chofnodi yng Nghymru.

Ganwyd y Parchedig Ddr. Rowland Williams (1817-1870) yn Helygain, Sir y Fflint a’i addysgu yng Ngholeg Eton. Mae’r portread ohono (gyda diolch i Brifysgol y Drindod Dewi Sant) yn rhan o baentiad gan James Robertson.

Roedd Rowland yng Ngholeg y Brenin, Caergrawnt, pan gyrhaeddodd Arthur Pell o Ysgol Rugby yn 1839. Pell a sefydlodd Clwb Peldroed Caergrawnt er mwyn iddo allu parhau i chwarae’r gêm a ddysgodd yn yr ysgol.

Yn 1840, heriwyd yr Hen Etoniaid gan yr Hen Rugbywyr i gêm o beldroed. Yn y gêm hon buwyd yn trafod y bêl ac yn rhedeg â hi yn unol â’r dull y chwaraeid y gêm yn yr ysgol – a hynny er mawr ofid i’r Hen Etoniaid! Mae’n bosib bod Rowland wedi chwarae yn y gêm hon. Yr hyn sy’n sicr, ac yntau yng Nghaergrawnt, yw iddo weld cynnydd ym mhoblogrwydd “Pêldroed yn ôl rheolau Rugby” dros y degawd nesaf.

lampeter_first_rugby_match_memorial

Roedd Rowland Williams yn ddiwinydd pur amlwg ac yn 1850 cafodd ei benodi’n Is-Ganghellor ac Athro Diwinyddiaeth yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan. Roedd y coleg wedi’i sefydlu gan yr Esgob Burgess o Dyddewi yn 1822. Y disgwyl oedd y byddai’r mwyafrif o’r myfyrwyr cynharaf yn derbyn urddau eglwysig. Go brin bod fawr o le i chwaraeon yn eu bywyd bob dydd. Ond dyma Rowland yn cyflwyno criced, croquet a rygbi.

Nid oedd gan fyfyrwyr Llambed neb i chwarae rygbi yn eu herbyn hyd nes i sefydliadau academaidd eraill yng Nghymru fabwysiadu’r gêm. Yn 1866 y chwaraewyd y gêm rygbi gyntaf i’w chofnodi yng Nghymru, Coleg Llambed yn erbyn Coleg Llanymddyfri. Nid yw canlyniad y gêm honno wedi’i chofnodi .

Yn ystod y 1870au daeth y gêm yn boblogaidd ar draws y de diwydiannol a chwaraeai tîm profiadol Llambed yn erbyn clybiau megis Abertawe, Caerdydd, Casnewydd a Chastell-nedd. Yn 1881 roedd clwb Llambed yn aelod sylfaen o Undeb Rygbi Cymru yng Ngwesty’r Castell, Castell-nedd. Yn 1885 a 1886 cynrychiolodd dau fyfyriwr o Lambed eu gwlad.

Bu Coleg Llambed yn chwarae rygbi o’r safon uchaf tan iddyn nhw fethu cystadlu mwyach yn erbyn timoedd o’r trefi mawr diwydiannol yn y 1920au cynnar.

Codwyd y gofeb gan Brifysgol y Drindod Dewi Sant yn 2016, sef blwyddyn coffáu canmlwyddiant a hanner yr ornest gyntaf honno. Naddwyd y bêl o garreg a gafwyd o hen Adeilad Caergaint a’i lleoli’r gerllaw’r Adeilad Caergaint presennol.

Diolch i Selwyn Walters, o Gymdeithas Hanes Llanbedr Pont Steffan, ac i'r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad

Cod post: SA48 7ED    Map

Gwefan Prifysgol y Drindod Dewi Sant