Safle ffatri bwyelli a gleiniau Mesolithig, Nab Head
Mae archeolegwyr wedi dod o hyd i filoedd lawer o bennau bwyell fflint ar y pentir hwn, gan nodi ei fod yn safle gweithgynhyrchu mawr yn y cyfnod Mesolithig, tua 10.500 o flynyddoedd yn ôl. Hefyd i'w gweld yma roedd llawer o gleiniau addurnol, ynghyd ag offer a ddefnyddiwyd i wneud y pethau gwerthfawr.

Detholiad o gleiniau o Nab Head © Amgueddfa Cymru–National Museum Wales
Gweld y llun yn llawn (ffenestr newydd)
Sylwyd ar y fflintiau cyntaf yma wedi i stormydd erydu uwchbridd yn 1880. Yn y 1920au daethpwyd o hyd i ffiguryn â grŵp o gleiniau. Daeth cloddio yn 1979 â dim llai na 12,000 o fflintiau i'r golwg!
Gwnaed y rhan fwyaf o'r fflintiau trwy siapio cerrig o'r arfordir, a oedd ar y pryd tua 6km i ffwrdd oddi yma. Byddai'r tir a godwyd yma wedi darparu golygfeydd da ar draws y tirwedd gyfagos, ond ni ddarganfuwyd gweddillion aneddiadau dynol ar y tir nad yw wedi'i golli i erydiad arfordirol. Mae'r offer a geir yma yn cynnwys llafnau, darnau dril a chrafwyr ar gyfer glanhau croen.
Mae mwy na 700 o gleiniau wedi'u canfod ym Mhen Nab. Maen nhw'n gerrig mân bach, tua 2mm i 3mm o drwch, gyda thyllau wedi'u drilio trwy'r canol. Mae gleiniau wedi'u canfod mewn safleoedd Mesolithig eraill ym Mhrydain, ond nid mewn symiau mor fawr ag yma. Byddai drilio’r tyllau bach gyda'r offer oedd ar gael wedi bod yn waith medrus. Credir bod y gleiniau yn symbolau statws, ac efallai eu bod wedi cael eu masnachu rhwng grwpiau o bobl mewn gwahanol ardaloedd.
Gyda diolch i Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed a Chofnod Henebion Cenedlaethol Cymru. Cyfieithiad gan Gwyndaf Hughes
![]() |
![]() ![]() |