Model locomotif stêm Topsy, Porthmadog
Dyma un o drenau rheilffordd model hynaf y byd sy'n cael ei bweru gan stêm. Hwn hefyd oedd y cyntaf o sawl loco stêm a adeiladwyd yng ngwaith Boston Lodge, Rheilffordd Ffestiniog.
Adeiladwyd y model yn 1869 ar gyfer Charles Easton Spooner, y peiriannydd a fu’n gyfrifol am adeiladu Rheilffordd Ffestiniog. Mae'n seiliedig ar un o'r locos stêm gwreiddiol a gafodd y rheilffordd ym 1863, pan ddaeth yn rheilffordd gul gyntaf y byd i ddefnyddio tyniant stêm.
Rhedodd Spooner y model i ddifyrru ei hun ac ymwelwyr yn ei gartref, Bron-y-Garth, ar ochr y bryn i'r gorllewin o harbwr Porthmadog. Efallai gosododd drac parhaol yn ei ardd. Mae darnau wedi goroesi o drac cludadwy a fyddai wedi ffurfio ffigwr o wyth. Mae'r rheiliau yn 8cm oddi wrth ei gilydd.
Yn ddiweddarach, cadwyd y loco yn Llundain a'r Amwythig cyn cael ei roi ar fenthyg ac yna fel rhodd i Reilffordd Ffestiniog. Mae bellach wedi'i gartrefu mewn cas gwydr ym Mar Spooner, yng ngorsaf Harbwr Porthmadog.
Diolch i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad
Cod post: LL49 9NF
Rheilffordd Ffestiniog ar HistoryPoints.org
![]() |
![]() ![]() |
![]() |
![]() ![]() |
View Model steam loco Topsy HistoryPoints.org in a larger map