Canolfan achub mynydd Llanberis, Nant Peris
Canolfan achub mynydd Llanberis, Nant Peris
Mae’r adeilad hwn wedi bod yn gartref i Dîm Achub Mynydd Llanberis er 1973. Mae gwirfoddolwyr y tîm wedi helpu llawer o bobl i ddiogelwch o’r Wyddfa a mynyddoedd eraill yn y cyffiniau. Roedd yr adeilad yn dŷ cyn cael ei roi i Eglwys Sant Peris fel neuadd eglwys, lle cynhaliwyd yr Ysgol Sul.
Mae cofnod cyntaf yr adeilad i'w weld yng nghofrestr genedigaethau Plwyf Llanberis ar 20 Mai 1781. Yn ôl y gofrestr yr enw gwreiddiol oedd Tŷ’r Baily.
O 1947 ymlaen trefnwyd gwasanaeth achub mynydd ar gyfer yr ardal hon gan Chris Briggs o Westy Pen y Gwryd, ond erbyn diwedd y 1960au roedd y gwaith yn ormod i’r ychydig wirfoddolwyr. Gyda llawer o bobl yn berchen ar geir, a chanddynt mwy o amser hamdden, roedd twf mawr yn y niferoedd o bobl yn cerdded ar fynydd uchaf Cymru, sef yr Wyddfa.
Ffurfiwyd y tîm ym 1968. Caniataodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i'r tîm ddefnyddio ei ganolfan wardeniaid yn Nant Peris fel canolfan achub barhaol yn 1973, a enwyd yn Rescue Post 77 gan y Cyngor Achub Mynydd yn 1976.
Rwan mae mwy na 600,000 o bobl y flwyddyn yn cerdded ar yr Wyddfa, y dywedir mai hwn yw mynydd prysuraf y DU. Mae gan rai offer gwael ac eraill yn camddeall natur y tywydd neu'r dopograffeg. Os ydyn nhw'n mynd i drafferthion, mae Tîm Achub Mynydd Llanberis yn anfon achubwyr. Nid oes unrhyw dâl, ac mae'r tîm yn dibynnu ar roddion i dalu costau offer a hyfforddiant. Mae poblogrwydd cynyddol yr Wyddfa wedi arwain at ddigwyddiadau cynyddol, gyda’r tîm yn ymateb i fwy na 230 yn ystod 2018.
Gyda diolch i George Jones a Helen Wilcox
Cod post: LL55 4UH Map
Gwefan Tîm Achub Mynydd Llanberis
Tudalen Facebook Tîm Achub Mynydd Llanberis