Muriau, sef Canolfan Groeso Conwy bellach

Cafodd yr adeilad hwn ei godi yng nghanol y 1880au ar gyfer y masnachwr coed Humphrey Lewis a’i wraig Adelaide. Bu farw un o’u tri meibion, Arthur, yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Photo of Humphrey LewisRoedd Humphrey (llun ar y dde) a’i frawd Peter yn berchen ierdydd coed llwyddiannus yn Llanrwst ac yn Benarth Road, Conwy, yn ogystal ag iard adeiladu cychod ger cei Conwy. Fel y gallwch weld o’r tu mewn, mae’r gwaith coed addurnol yn adlewyrchu beth oedd gwaith Humphrey!

Roedd yn byw gyda’i chwiorydd yn 23 Castle Street cyn symud, erbyn 1885, i Muriau. Cofnodwyd yng nghyfrifiad 1891 yn y cyfeiriad hwn: Humphrey ac Adelaide; eu merch a’u tri mab; a thri gwas. Roedd Humphrey yn gynghorydd tref, maer y dref ac yn aelod o Glwb y Ceidwadwyr. Bu farw ym 1898.

Roedd Adelaide (Starkey gynt), a aned yn Derby, yn amlwg yn y gymdeithas leol. Roedd yn ysgrifennydd a thrysorydd y Gymdeithas Nyrsio am 15 mlynedd ac yn aelod gweithgar o’r Gynghrair Briallu leol (grŵp merched y Ceidwadwyr). Rhedodd Adelaide y busnes coed o 1898 hyd 1909, pryd yr ymddengys ei fod wedi cau. Symudodd hi o Muriau yn 1904 i Barc Cadnant ac yn ddiweddarach i Lerpwl.

O 1909 i 1914 roedd Muriau yn gartref i'r cyfreithiwr lleol James Porter.

Bu uned amddiffyn leol o’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, yn defnyddio Muriau yn Chwefror a Mawrth 1915 ar gyfer llety cysgu, ystafell y clercod a swyddfa, gan dalu £5 o rent yr wythnos. Cafodd yr uned ei ffurfio ym Medi 1914 ar gyfer y gwasanaeth gartref, ac fe symudodd i Bedford ym mis Gorffennaf 1915.

Ymddiswyddodd Arthur Starkey Lewis, a gafodd ei fagu ym Muriau, fel ail lefftenant gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ym 1910. Fe ail-ymunodd ar gyfer y rhyfel a bu farw yn Ffrainc ym Mai 1917, yn 32 oed.

Photo of Conwy pop-up post office during Cove-19 pandemicO 1915 i 1930, roedd swyddogion wyrcws Conwy (wedi'i leoli ar Ffordd Bangor) yn defnyddio Muriau, gydag ystafelloedd yn cael eu hisosod i adrannau eraill o’r awdurdod lleol. O 1922 i 2002, roedd y cofrestrydd ar gyfer genedigaethau, marwolaethau a phriodasau yma. Roedd clinig cymunedol yma o 1979 i 2007. Bu Tacsis Elwyn yn gweithredu o’r llawr cyntaf o 1969 i 2011, gyda'r cerbydau’n cael eu parcio yn yr iard gefn.

Daeth Muriau yn Ganolfan Groeso i'r dref yn 2012. Roedd swyddfa bost dros dro Conwy yma yn ystod pandemig Covid-19 yn 2020. Mae’r llun yn dangos y sach a orweddai o flaen y cownter i gadw pellter rhwng y cwsmeriaid a’r staff, a photel hylif diheintio dwylo ar y silff bentan.

Diolch i Ray Castle, Adrian Hughes a Gwasanaeth Archifau Conwy

Cod post: LL32 8LD    Map

Gwefan Canolfan Groeso Conwy