Ysgol swyddog gofod NASA, Llanddaniel-fab
Cafodd Tecwyn Roberts, ffigwr allweddol yn rhaglen gofod yr UDA ar ôl y rhyfel, ei addysg yn ysgol bentref Llanddaniel-fab, Ysgol Parc y Bont.
Cafodd ei eni yn 1925 mewn tŷ o'r enw Trefnant Bach, i'r gogledd-ddwyrain o'r pentref. Prynodd yr ysgol set radio ddi-wifr tra roedd yn ddisgybl yno. Ar ôl astudio yn Ysgol Ramadeg Biwmares, ymunodd Tecwyn â staff Saunders-Roe yn Llanfaes, oedd wedi symud yno o Ynys Wyth yn 1941 i osgoi cyrchoedd awyr yr Almaen. Addaswyd cychod hedfan a fewnforiwyd o'r UDA yno i'w defnyddio yn Awyrlu Prydain.
Ar ôl gwasanaethu'n fyr gyda'r RAF, dychwelodd Tecwyn i ddatblygiad awyrennau. Ym 1959 cafodd ei recriwtio i'r sefydliad a ddaeth yn ddiweddarach yn NASA(the National Aeronautics and Space Administration). Ef oedd ei swyddog deinameg hedfan cyntaf (goruchwylio efelychiadau o sut y byddai llong ofod yn hedfan) ar gyfer Project Mercury, a ddatblygodd hediadau gofod cyntaf yr Unol Daleithiau i ddynion. Chwaraeodd Tecwyn ran allweddol yn nyluniad y ganolfan reoli yn Cape Kennedy a'r ganolfan ddiweddarach yn Houston. Roedd yn rhan o'r tîm a laniodd y bodau dynol cyntaf ar y lleuad yn 1969.
Mae'r cofnod ysgrifenedig cyntaf o "A-OK" – sy'n golygu perffaith - mewn memo gan Tecwyn yn 1961.
Fe ymwelodd a Ysgol Parc y Bont yn 1974, bum mlynedd cyn iddo ymddeol. Mae'r llun yn ei ddangos gyda rhai o'r disgyblion. Bu farw yn 1988 a’i gladdu yn Crownsville, Maryland, UDA.
Agorwyd Ysgol Parc y Bont yn 1874 mewn adeilad newydd ger afon Braint, yn agos i siambr gladdu Bryn Celli Ddu. Mae'r adeilad bellach yn feithrinfa i blant. Yn 2001, symudodd yr ysgol i'w hadeilad presennol yng nghanol y pentref. Y tu mewn mae cofeb (gynt yn eglwys y pentref) i Hugh Clifford Sewell-Cook, a laddwyd ar faes y gad yn Burma yn yr Ail Ryfel Byd. Fe'i henwir hefyd ar gofeb rhyfel Llanddaniel-fab.
Gyda diolch i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad
Cod post: LL60 6ES Gweld Map Lleoliad