Safle pysgodfa penwaig Nefyn
Bu penwaig Nefyn yn enwog am ganrifoedd. Daliwyd niferoedd mawr o amgylch Penrhyn Llŷn, ac fe gâi llawer ohonynt eu halltu yn lleol (i gadw’r pysgod). Yma ceir lluniau o benwaig a chwch penwaig, trwy garedigrwydd gwefan hanes lleol Rhiw.com.
Roedd Nefyn yn ganolbwynt i’r diwydiant hwn, ac mae sôn am bysgod o ardaloedd eraill, fel Grimsby, yn cael eu gwerthu yng ngogledd Cymru fel “penwaig Nefyn”. Ym 1898 penderfynodd pysgotwyr lleol i ddeisebu Bwrdd Pysgodfeydd Môr y Gorllewin yn galw am wahardd yr arfer. Cydnabu cadeirydd y bwrdd bod hyn yn ddigwydd ond dywedodd y bwrdd nad oedd ganddo rym i ymyrryd. Mewn achos llys ym 1907, cyhuddodd un gwerthwr pysgod ym Mhwllheli werthwr pysgod arall o ddisgrifio pysgod o lefydd cyn belled bell â Scarborough a Norwy fel “penwaig Nefyn”.
Mae cofnodion o 1287 yn dangos bod pysgotwyr Nefyn hefyd yn ffermwyr graddfa fach yn y canol oesoedd. Roedd y traeth tywodlyd yn harbwr Nefyn yn addas ar gyfer glanio pysgod. Yn y 18fed ganrif adeiladwyd pier bach. Erbyn yr 17eg ganrif roedd llongau’n cludo swmpiau o benwaig o harbwr Porthdinllaen gerllaw.
Yn y 1790au beirniadodd yr awdur Thomas Pennant ffermwyr Penrhyn Llŷn am esgeuluso’r hyn a allai fod yn “bysgodfa benwaig” gynhyrchiol iawn. Dywedwyd wrtho fod 3,000 o benwaig y flwyddyn yn cael eu gwerthu, ac ym 1771 roedd cyfanswm gwerthiant yn cyrraedd tua £ 4,000 - bron i chwarter miliwn o bunnoedd yn arian heddiw. Nododd fod rhai o'r pysgod yn cael eu halltu yn lleol, eraill yn cael eu halltu yn Nulyn.
Erbyn 1910 roedd 40 o gychod penwaig wedi eu lleoli yn Nefyn, gyda thri neu bedwar o griw ar bob un. Roedd pysgota yn swydd ran-amser i’r mwyafrif ohonynt, gan fod y penwaig yn dymhorol. Daliwyd cyfanswm o tua 9,000 o benwaig mewn tri diwrnod yn unig ym mis Tachwedd 1908. Fodd bynnag rhoddodd y Rhyfel Byd Cyntaf ddiwedd ar y traddodiad hir.
Gyda diolch i AHNE (Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol) Llŷn am y cyfieithiad
Mwy o wybodaeth am y penwaig a lluniau – gwefan Rhiw.com