Dôl morwellt Porthdinllaen
Mae un o ddolydd morwellt mwyaf Cymru yn gorwedd yn y dŵr bas ym Mhorthdinllaen (ac i’r gogledd o Forfa Nefyn). Mae wedi darparu hadau ar gyfer dolydd newydd ac wedi cael ei hadfer. Mae'r ddôl yn dangos fel ardal tywyll ar y map isod.
Yn wahanol i wymon, mae gan forwellt ddail, gwreiddiau, egin a hyd yn oed flodau. Mae dolydd morwellt yn hafanau bioamrywiaeth. Maent yn darparu cynefin, bwyd a lloches i filoedd o rywogaethau o bysgod, infertebratau, mamaliaid, ymlusgiaid ac adar. Mae dôl morwellt Porthdinllaen yn feithrinfa bwysig i bysgod ifanc o werth masnachol.
Mae dolydd morwellt iach hefyd yn dal carbon o'r atmosffer ac yn cynhyrchu ocsigen.
Credir bod morwellt yn bresennol yn hanesyddol mewn sawl rhan o’r arfordir ond fe’i collwyd, yn bennaf oherwydd ansawdd dŵr gwael gan gynnwys llygredd metel o ddiwydiannau sydd bellach wedi diflannu.
Amcangyfrifir bod y ddôl morwellt ym Mhorthdinllaen yn gorchuddio'r un arwynebedd â 46 o gaeau pêl-droed. Mae wedi bod yn sylfaenol i dreialu adfer morwellt yn y DU, gan gynhyrchu hadau ar gyfer treialon plannu safleoedd. Cyflenwodd y rhan fwyaf o’r hadau ar gyfer prosiect adfer morwellt mawr cyntaf y DU, yn Dale, Sir Benfro.
Yn 2022 dechreuodd rhaglen Morwellt: Achub Cefnfor, gyda’r nod o blannu gwellt y gamlas (Zostera marina) ar draws 10 hectar yng Ngogledd Cymru erbyn 2026 trwy ddulliau arloesol o adfer morwellt.
Mae hadau morwellt a gesglir o'r ddôl iach yma yn cael eu prosesu mewn acwaria, lle mae'r meinwe organig o amgylch yr hadau yn pydru'n naturiol i ganiatáu hadau i ollwng a chael eu casglu. Mae elusen Project Seagrass yn treialu amrywiol ddulliau plannu, gan gynnwys bagiau hesian, chwistrelliad dosbarthu hadau, peli clai wedi'u cymysgu â hadau, a thrawsblannu eginblanhigion. Mae’r fideo isod, diolch i Project Seagrass, yn dangos aelod o staff Project Seagrass yn casglu hadau ym Mhorthdinllaen.
Rheolir rhaglen Morwellt: Achub Cefnfor gan WWF, mewn partneriaeth â Project Seagrass, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llŷn a’r Sarnau a Phrifysgol Abertawe.
Cefnogir y rhaglen gan gyllidwyr sy'n cynnwys Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Sefydliad Garfield Weston a Sefydliad Moondance. Mae pobl ifanc 11-16 oed yn cymryd rhan yn ei rhaglen Hyrwyddwyr Achub Cefnfor.
Postcode: LL53 6DB Map
Mwy o wybodaeth – gwefan Project Seagrass
![]() |
![]() ![]() |