Harbwr Porthdinllaen

Mae harbwr Porthdinllaen yn adnabyddus am yr adeiladau sydd wedi eu gwasgu rhwng y llanw uchel a llethrau serth y pentir. Ni fyddai’n ardal gyn hyfryted heddiw pe bai’r syniad o greu porthladd fferi wedi cael ei wireddu!

Photo of Porthdinllaen harbour in 1893Roedd caer helaeth o Oes yr Haearn ar y pentir. Erys rhai llethrau a ffosydd hyd heddiw. Ystyr Porthdinllaen yw “harbwr Dinllaen”. Cwmwd oedd Dynthlen, fel y’i hysgrifennwyd tua 1300, ac fe gyfeiriai ei enw at y gaer (din). Daw yr ail elfen Dinllaen o enw llwyth Lageni, a ysgrifennwyd fel Lhein tua 1191. Mae’r elfen hon wedi goroesi hefyd yn enwau Penrhyn Llŷn a Leinster, Iwerddon.

Roedd yr harbwr naturiol yng nghysgod y pentir yn ddefnyddiol ar gyfer glanio a llwytho’r llongau. O bryd i’w gilydd, cysgodai llongau yma rhag y gwynt gorllewinol. Adeiladwyd cychod a llongau bach ar y lan, ac fe wnaed hwyliau yno hefyd.

Câi nifer mawr o benwaig eu dal a’u halltu yn lleol, a gallwch ddarllen ynglŷn â’r penwaig ar ein tudalen am y bysgodfa. Ceir cofnod bod 1,200 o gasgenni gwag wedi cyrraedd Porthdinllaen o Gaer ym 1612, a bod llongau hwylio wedi mynd â phenwaig oddi yma i Gaer ym 1620. Hefyd cludwyd da byw trwy’r harbwr, i’r ddau gyfeiriad.

Yn gynnar yn y 19eg ganrif ffurfiwyd cwmni ar gyfer yr harbwr, a rhoddwyd pwerau Seneddol i Borthdinllaen i ddatblygu’n borthladd i longau i Ddulyn. Gwnaed gwelliannau i’r ffordd a deithiai i Borthdinllaen. Erbyn 1811, adeiladwyd sarn ym Mhorthmadog gan yr Aelod Seneddol mentrus William Maddocks. Gobeithiodd ef y byddai’r sarn yn dod yn rhan o’r ffordd newydd o Lundain i Ddulyn trwy Borthdinllaen.

Fodd bynnag, ffafriwyd y porthladd sefydledig yng Nghaergybi (Ynys Môn) dros Borthdinllaen, a hynny’n rhannol oherwydd cynllun beiddgar Thomas Telford ar gyfer pont grog enfawr ar draws yr Afon Fenai.

Mae Porthdinllaen yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ers 1994. Mae cwrs golff naw twll ar ben y pentir sy’n ychwanegiad i gwrs golff 18 twll Clwb Golff Nefyn. Ffurfiwyd y clwb ym 1907 mewn cyfarfod yn Nhafarn y Tŷ Coch ym Mhorthdinllaen.

Cod post: LL53 6DB    Map

Gyda diolch i Rhiw.com, ac i'r Athro Hywel Wyn Owen o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru am wybodaeth ynghylch enwau lleoedd. Hefyd i AHNE (Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol) Llŷn am y cyfieithiad

Mwy am longau Porthdinllaen – gwefan Rhiw.com

Gwefan AHNE Llŷn

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button